Joan Ruddock

gwleidydd o Gymru

Mae'r Fonesig Joan Mary Ruddock, DBE (née. Anthony; geni 28 Rhagfyr 1943) yn wleidydd Plaid Lafur Prydeinig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol (AS) dros Lewisham Deptford o 1987 i 2015. Roedd Ruddock yn Weinidog Gwladol dros Ynni yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd tan 11 Mai 2010. Neilltuodd o'r Senedd ar adeg Etholiad Cyffredinol 2015.

Joan Ruddock
Ganwyd28 Rhagfyr 1943 Edit this on Wikidata
Pont-y-pŵl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodFrank Doran Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.joanruddock.org/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Addysgwyd Ruddock yn ysgol ramadeg y Merched Pont-y-pŵl ac yn Imperial College Llundain lle bu'n astudio Botaneg a Chemeg. Cyn iddi gael ei ethol i'r Senedd, roedd hi'n gadeirydd yr Ymgyrch Dros Ddiarfogi Niwclear (CND). Rhoddodd gorau i gadeirio CND ym 1985. [1]

Gyrfa Seneddol golygu

Safodd Ruddock fel ymgeisydd Llafur am sedd Geidwadol ddiogel Newbury ym 1979, gan ddod yn drydydd. Fe'i hetholwyd i Lewisham Deptford ym 1987, gan olynu John Silkin. Yn wreiddiol roedd hi'n aelod o'r Campaign Group grŵp o Aelodau Seneddol asgell chwith Llafur ond ymddiswyddodd ym 1988 mewn protestio yn erbyn penderfyniad Tony Benn i herio Neil Kinnock am yr arweinyddiaeth.

Yn ystod llywodraeth Tony Blair, gwasanaethodd am gyfnod byr fel y Gweinidog dros Fenywod. Dychwelodd i'r llywodraeth pan benododd Gordon Brown hi'n ei Is Ysgrifennydd Seneddol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ym mis Mehefin 2007 gyda chyfrifoldeb dros fioamrywiaeth, addasu ar gyfer newid hinsawdd, gwastraff a choedwigaeth ddomestig. Ym mis Hydref 2008 fe'i trosglwyddwyd i'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd a oedd newydd ei chreu, gan barhau yn ei rôl flaenorol. Yn adrefnu Mehefin 2009, fe'i dyrchafwyd i lefel Gweinidog Gwladol, gyda chyfrifoldeb am bolisi ynni, gan gadw'r swydd hyd ddymchwel y Llywodraeth Lafur yn 2010.

Yn ystod ei hamser yn y senedd, roedd Ruddock yn gyfrifol am gyflwyno dau bil aelod preifat yn llwyddiannus ar dipio anghyfreithlon a sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu ailgylchu ar garreg y drws. [1]

Mae'n Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Goldsmiths, Prifysgol Llundain, [2] yn Gymrawd Anrhydeddus o Gonservatoire Cerdd a Dawns Trinity Laban ac yn aelod o fwrdd llywodraethwyr Trinity Laban. [3]

Fe'i penodwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 9 Mehefin 2010. [4]Fe'i dyrchafwyd yn Fonesig  yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2012 am wasanaethau cyhoeddus a gwleidyddol. [5]

Bywyd preifat golygu

Mae Ruddock wedi bod yn briod ddwywaith. Priododd ei gŵr cyntaf, yr Athro Keith Ruddock, ym 1963, [6]bu farw ef mewn damwain traffig ym 1996; roedd y cwpl wedi gwahanu rhai blynyddoedd ynghynt. [7] Ei ail briodas oedd [6] i'r gyn AS Llafur dros Ogledd Aberdeen, Frank Doran o 2010 hyd ei farwolaeth yn 2017.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Ruddock, Joan. "Farewell speech, House of Commons 26 March 2015". Dame Joan Ruddock former MP for Lewisham Deptford. Joan Ruddock. Cyrchwyd 8 May 2015.
  2. Goldsmiths "Pairing politicians and scientists"; adalwyd 24 hydref 2018
  3. Trinity Laban Joan Ruddock profile Archifwyd 23 December 2012 yn Archive.is, trinitylaban.ac.uk; accessed 31 hydref 2017.
  4. "Privy Council appointments". Privy Council. 9 June 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 December 2010. Cyrchwyd 26 July 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. London Gazette 31 Rhagfyr 2011 adalwyd 24 Hydref 2018
  6. 6.0 6.1 Who's Who, 2016 (A & C Black, London), p.2016
  7. "MP's husband killed". The Herald. Glasgow. 21 December 1996. Cyrchwyd 18 Medi 2015.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Silkin
Aelod SeneddolLewisham Deptford
19872015
Olynydd:
Vicky Foxcroft