Joanna Scanlan

actores a aned yn 1961

Actores a sgriptiwr Cymreig yw Joanna Scanlan (ganwyd 27 Hydref 1961). Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei rhannau mewn nifer o gyfresi comedi Prydeinig fel The Thick of It,[1] Getting On, Puppy Love, No Offence a Bridget Jones's Baby.[2]

Joanna Scanlan
Ganwyd27 Hydref 1961 Edit this on Wikidata
West Kirby Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • De Montfort University Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Scanlan yn West Kirby, Cilgwri.[3] Yn ferch i westywyr, symudodd i Gymru gyda'i rhieni yn dair oed, lle yn ddiweddarach prynodd ei rhieni westy Castell Rhuthun pan oedd yn 13.[4][5] Mae ei mam yn Gymraes a thyfodd Scanlan i fyny yng Nghymru.[6]

Aeth hi i ysgol Brigidine Convent and Howell's yn Sir Ddinbych, ac hefyd Ysgol New Hall yn Essex. Mae hi'n ystyried ei hun yn Gymraes oherwydd ei magwraeth yng Nghymru.[7]

Yna, ymunodd a Footlights Caergrawnt, lle daeth yn ffrindiau gyda Tilda Swinton.[8]

Gyrfa golygu

Gyrfa gynnar golygu

Ar ôl graddio, ymunodd Scanlan a staff academaidd Coleg Polytechnig Caerlŷr gan ddarlithio mewn drama am bum mlynedd, cyn cymryd rôl debyg yng Nghyngor Celfyddydau Prydain Fawr am dair blynedd.[9]

Ar ôl i Gyngor Celfyddydau Prydain Fawr chwalu yn 1994, yn 34 oed penderfynodd Scanlan roi cynnig ar actio yn broffesiynol, ac o fewn dim enillodd rhan fel nyrs yn Peak Practice ar ITV1. Daeth hyn yn dipyn o thema yn ei gyrfa cynnar, gan iddi chwarae bydwraig yn The Other Boleyn Girl gyda Natalie Portman a Scarlett Johansson, cyn chwarae nyrs unwaith eto ochr yn ochr â meddyg Ade Edmondson yn Doctors and Nurses ac yn ddiweddarach, Dr Diana Dibbs yn Doc Martin gyda Martin Clunes.[10]

Getting On golygu

Cyd-ysgrifennodd y gyfres deledu Getting On gyda Jo Brand a Vicki Pepperdine gyda'r dair yn actio yn y rhaglen hefyd. Derbyniodd y gyfres gyntaf ganmoliaeth uchel gan feirniaid teledu yn y DU, gyda chanmoliaeth i berfformiadau yr actorion, ac am y portread realistig o ysbyty'rgwasanaeth iechyd.[11][12]

Enwebwyd y tri awdur ar gyfer y Gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 2009 am yr Ysgrifennu Gorau mewn Comedi.[13]

Enwebwyd Scanlan a Brand ar gyfer Gwobr BAFTA yn 2010 am y Perfformiad Benywaidd Gorau mewn Rhan Gomedi.[14]


Mae Scanlan yn Gymraes ac fe ddysgodd hi Gymraeg yn ystod cyfres S4C, Iaith ar Daith.[15][16]

Detholiad o'i gwaith golygu

Ffilm golygu

Blwyddyn Teitl Rhan
2003 Girl with a Pearl Earring Tanneke
2005 A Little Trip to Heaven

Josie
2005 Kinky Boots Trish
2006 Notes on a Scandal Sue Hodge
2007 Stardust Mormo
2007 Grow Your Own

Barbara
2008 The Other Boleyn Girl Bydwraig Mary
2009 In The Loop

Roz
2011 Hot Hot Hot

Mary-Ann
2013 The Invisible Woman

Catherine Dickens
2014 Get Santa

Ruth
2014 Testament of Youth

Modryb Belle
2015 The Bad Education Movie

Susan Poulter
2016 How to Talk to Girls at Parties

Ffilmio
2016 Bridget Jones' Baby Cathy

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rhan
1997 Jane Eyre Bessie
2000 Spaced Tina
2000 Coming Soon

Claudia
2001 My Family

Cynorthwy-ydd Deintyddol
2001 Fun at the Funeral Parlour

Mrs Marion Boubes
2005-2012 The Thick of It Terri Coverley
2009 Home Time

Mrs Pitman
2009-2012 Getting On
Chwaer Den Flixster
2011 Doc Martin Dr Diana Dibbs
2012 Stella Nancy
2013 Heading Out

Toria
2013-14 Big School
Mrs Janine Klebb
2013 Death Comes To Pemberley Mrs Reynolds
2014 Puppy Love

Nana V
2014 The Killings of Copenhagen Clara Trout
2014 Rev. Jill Mallory
2014 Mapp and Lucia Ursula "Ursy" Pillson
2015— No Offence

DI Vivienne Deering
2015 Fungus the Bogeyman

Mildrew

Cyfeiriadau golygu

  1. BBC Comedy Blog: The Thick of It's Joanna Scanlan on playing Terri
  2. FT.com: Joanna Scanlan, one of Britain's great comic actors
  3. [1]
  4. [2]
  5. Saner, Emine (2014-01-27). "Joanna Scanlan: 'Depression was like turning around a liner across the ocean'". theguardian.com. Cyrchwyd 23 June 2015.
  6. "Joanna Scanlan learned Welsh to film her new Channel 4 drama". uk.style.yahoo.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-02.
  7. "Joanna Scanlan: Who is After Love BAFTA winner? What films has Joanna Scanlan been in?".
  8. Saner, Emine (2014-01-27). "Joanna Scanlan: 'Depression was like turning around a liner across the ocean'". theguardian.com. Cyrchwyd 23 Mehefin 2015.
  9. Veronica Lee (10 Chwefror 2013). "Joanna Scanlan: From bumbling Whitehall press officer in The Thick of It to lifestyle coach in Heading Out". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-25. Cyrchwyd 11 Mawrth 2013.
  10. [3]
  11. "'Getting On' In The Press..." British Comedy Guide. Cyrchwyd 5 Mehefin 2010.
  12. Banks-Smith, Nancy (9 Gorffennaf 2009). "Last night's TV: Getting On, Taking the Flak". The Guardian. London. Cyrchwyd 3 Mai 2010.
  13. "RTS Programme Awards 2009". Royal Television Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mehefin 2010. Cyrchwyd 6 Mehefin 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  14. "Television Awards Winners in 2010". BAFTA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2010. Cyrchwyd 6 Mehefin 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  15. Colderick, Stephanie (2022-03-13). "Joanna Scanlan thanks BAFTA in Welsh as she accepts award for leading actress". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-20.
  16. Peregrine, Chris (2021-03-01). "A new group of celebrities are learning Welsh for popular TV series". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-20.

Dolenni allanol golygu