Roedd Johannes Gensfleisch zur Laden zum Gutenberg (c. 14003 Chwefror 1468) yn ôf aur ac argraffwr o'r Almaen a ddyfeisiodd ddull o argraffu gyda theip symudol tua 1450. Ei waith enwocaf yw Beibl Gutenberg.[1]

Johann Gutenberg
GanwydJohannes Gensfleisch zur Laden zum Gutenberg Edit this on Wikidata
c. 1400 Edit this on Wikidata
Mainz Edit this on Wikidata
Bu farw1468 Edit this on Wikidata
Mainz Edit this on Wikidata
Man preswylMainz Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdyfeisiwr, teipograffydd, engrafwr, peiriannydd, gof, eurych, mintmaster Edit this on Wikidata
TadFriele Gensfleisch zur Laden Edit this on Wikidata
MamElse Wirich Edit this on Wikidata

Ganed Gutenberg yn ninas Mainz, yn fab ieuengaf marsiandiwr o uchel dras o'r enw Friele Gensfleisch zur Laden, a'i ail wraig Else Wyrich. Mae cofnod ei fod yn byw yn Strasbourg yn 1434, efallai'n gweithio fel gôf aur. Erbyn 1448, roedd wedi dychwelyd i Mainz, ac erbyn 1450 roedd wedi argraffu cerdd Almaeneg, hyd y gwyddys y gwaith cyntaf i'w agraffu ganddo. Argraffodd ei Feibl enwog yn 1455, gan gynhyrchu tua 180 copi. Cafodd ei alltudio o Mainz yn 1462, a symudodd i Eltville. Bu farw yn 1468, a chladdwyd ef yn eglwys Ffransiscaidd Mainz.

Cyfeiriadau golygu

  1. Philip B. Meggs (9 Medi 1998). A History of Graphic Design (yn Saesneg). Wiley. t. 69. ISBN 978-0-471-29198-5.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Almaenwr neu Almaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.