Paentiwr ac ysgythrwr o Almaenwr yn yr arddull newydd-glasurol oedd Johann Zoffany (13 Mawrth 173311 Tachwedd 1810) a oedd yn arbenigo mewn darluniau ymddiddan a phortreadau.

Johann Zoffany
Ganwyd13 Mawrth 1733 Edit this on Wikidata
Frankfurt am Main Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 1810 Edit this on Wikidata
Llundain, Strand-on-the-Green Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, gwneuthurwr printiau, engrafwr, drafftsmon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amColonel Mordaunt's Cock Match, The Death of Captain James Cook, The Tribuna of the Uffizi, Last Supper Edit this on Wikidata
Arddullportread, peintio hanesyddol, hunanbortread Edit this on Wikidata
MudiadNeo-glasuriaeth Edit this on Wikidata
PriodMary Thomas Edit this on Wikidata
PlantCecilia Clementine Elizabeth Zoffany Edit this on Wikidata

Ganwyd Johannes Josephus Zauffaly yn ninas ymerodrol rydd Frankfurt am Main yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, yn fab i bensaer a saer dodrefn yn llys Alexander Ferdinand, 3ydd Tywysog Thurn a Taxis.[1] Astudiodd arluniaeth yn Ratisbon, yn brentis i'r arlunydd Martin Speer, cyn iddo dreulio'i ieuenctid yn crwydro Awstria a'r Eidal, gan astudio dan Anton Raphael Mengs yn Rhufain. Symudodd i Loegr tua 1758 a chafodd waith yn addurno wynebau clociau.[2] Megis William Hogarth, paentiodd Zoffany luniau o gynhyrchiadau theatr Llundain, a'r enwocaf ohonynt ydy'r portreadau o'r actor David Garrick ar y llwyfan. Gwerthwyd printiau o'i ysgythriadau theatraidd a daeth ei waith yn boblogaidd gan y cyhoedd.[3] Fe'i noddwyd gan y Brenin Siôr III a'r Frenhines Charlotte, ac ymhlith ei bortreadau brenhinol mae Queen Charlotte with Her Sons, the Prince of Wales and the Duke of York (1765).[4] Fe'i derbyniwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol ar enwebiad y brenin yn 1769.[1]

The Tribuna of the Uffizi (1779).

Teithiodd Zoffany yn ôl i'r Eidal yn 1772 gyda chymorth ariannol y Frenhines Charlotte i dreulio saith mlynedd, yn Fflorens yn bennaf, ac yno fe baentiodd The Tribuna of the Uffizi (1779). Ystyriodd y Frenhines bod y paentiad yn darlunio dynion cyfunrywiol, gan beri sgandal a thramgwyddo'r teulu brenhinol.[3] Ymwelodd â Fienna hefyd, ym mha le fe baentiodd bortreadau llawn hyd o'r Habsbwrgiaid.[2] Aeth i India yn 1783 ac enillodd ffortiwn yn paentio portreadau o goloneiddwyr Seisnig a thywysogion Indiaidd. Ar ei fordaith yn ôl i Loegr yn 1789 cafodd ei longddryllio ger Ynysoedd Andaman. Heb fwyd, cytunodd y goroeswyr i gynnal lotri i ddewis un ohonynt i gael ei ladd a'i fwyta. Felly, Zoffany yw'r "unig aelod o'r Academi Frenhinol i fod yn ganibal".[5] Pan ddychwelodd i Loegr, paentiodd rhagor o bortreadau amlwg, er enghraifft Charles Towneley Among His Marbles (1790).[4] Ymhlith ei weithiau diweddaraf mae'r ddau lun Massacre at Paris (1794), ei ymateb i'r Chwyldro Ffrengig.[3] Ni phaentiodd lawer yn ystod deng mlynedd olaf ei oes. Bu farw yn 77 oed yn Strand-on-the-Green, Middlesex, a fe'i cleddir ym Mynwent Eglwys y Santes Ann, Kew.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Johan Zoffany 1733-1810", Tate. Adalwyd ar 26 Ionawr 2019.
  2. 2.0 2.1 Harold Osborne (gol.), The Oxford Companion to Art (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1970), t. 1227.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) "Johann Zoffany", Yr Academi Frenhinol. Adalwyd ar 26 Ionawr 2019.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) John Zoffany. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Ionawr 2019.
  5. William Dalrymple, White Mughals (Llundain: Penguin, 2002), t. 209n.