John Alcock (RAF)

Roedd Syr John William Alcock, (5 Tachwedd 189218 Rhagfyr 1919) yn awyrenwr Prydeinig, a lwyddodd, gydag Arthur Brown (1886-1948), ym 1919 i hedfan ar draws Cefnfor yr Iwerydd am y tro cyntaf. Cafodd y ddau eu urddo’n farchogion mewn cydnabyddiaeth am eu llwyddiant.[1]

John Alcock
GanwydJohn William Alcock Edit this on Wikidata
5 Tachwedd 1892 Edit this on Wikidata
Stretford Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 1919 Edit this on Wikidata
Rouen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethhedfanwr, swyddog yr awyrlu Edit this on Wikidata
TadJohn Alcock Edit this on Wikidata
MamMary Whitelegg Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, Distinguished Service Cross Edit this on Wikidata

Ganwyd Alcock ym Manceinion, yn fab i werthwr ceffylau, a bu'n gweithio yn y gwaith Empress Motor ym Manceinion fel prentis cyn mynd i faes awyr Brooklands fel mecanydd awyrennau. Derbyniodd ei drwydded hedfan ym mis Tachwedd 1912 a bu'n gweithio i gwmni Sunbeam fel peilot prawf hyd ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe'i gwasanaethodd fel hyfforddwr yn Yr Awyrlu Brenhinol cyn mynd ar gyrchoedd bomio yn nwyrain Y Môr Canoldir. Ym mis Medi 1917 cafodd ei orfodi i lanio yn y môr wrth fynd ar gyrch ar Gaercwstenin (Istanbul, bellach). Fe gafodd ef a'i griw eu cipio a'u carcharu am gyfnod y rhyfel. Gadawodd yr Awyrlu Brenhinol ym mis Mawrth 1919, wedi ennill y Groes Gwasanaeth Neilltuol am ei ddewrder.

Cyn y rhyfel cynigiodd y Daily Mail gwobr o £10,000 i’r cyntaf i groesi’r Iwerydd, heb stopio, mewn awyren. Gan fod y rhyfel wedi rwystro pawb rhag cynnig amdani roedd y wobr dal ar gael. Cynigodd cwmni Vickers awyren ddwbl Vimy efo injan dwbl wedi ei addasu ar gyfer yr ymgais. Bu Arthur Brown, cyd awerynwr, yn gwasanaethu fel llywiwr ar gyfer y daith. Cychwynwyd y daith trwy esgyn o Newfoundland am 1.58pm yn lleol (4.13pm GMT) ar 14 Mehefin 1919. Wedi taro tywydd gwael, a cholli cysylltiad radio, rhoesant gorau i’w bwriad gwreiddiol o hedfan i Lundain, gan lanio mewn cors yng Clifden, Swydd Galway, am 8.25am GMT ar ôl daith yn para am 16 awr 28 munud. Roedd eu llwyddiant yn cael ei ddathlu ledled y byd fel prawf bod cyfnod teithiau awyr dros pellter hir am ddyfod. Ond nid oedd Alcock i'w weld.

Ar 18 Rhagfyr 1919, er gwaetha'r tywydd gwael, fe aeth allan o Brooklands i ddarparu awyren dŵr Vickers Viking i gwsmer ym Mharis. Methodd yr awyren yn agos i Rouen gan gwrthdaro i’r tir. Anafwyd Alcock yn ddifrifol a bu farw mewn ysbyty yn Ruen. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Southern Manchester.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am awyrennu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.