John Betjeman

bardd Seisnig

Bardd Seisnig yn yr iaith Saesneg ac awdur ar bensaernïaeth oedd Syr John Betjeman (28 Awst 190619 Mai 1984). Fe oedd Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig o 1972 hyd ei farwolaeth.

John Betjeman
Ganwyd28 Awst 1906 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 1984 Edit this on Wikidata
Cernyw Edit this on Wikidata
Label recordioCharisma Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, sgriptiwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
SwyddBardd Llawryfog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadErnest Edward Betjemann Edit this on Wikidata
MamMabel Bessie Dawson Edit this on Wikidata
PriodPenelope Chetwode Edit this on Wikidata
Partnery Fonesig Elizabeth Cavendish Edit this on Wikidata
PlantCandida Lycett Green, Paul Betjeman Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr Aur y Frenhines am Farddoniaeth, Medal Albert, Marchog Faglor, Russell Loines Award for Poetry, Heinemann Award Edit this on Wikidata

Roedd Betjeman yn un o hoff feirdd y cyhoedd ac yn gyfarwydd o ganlyniad i'w gerddi hawdd eu darllen a'i ymddangosiadau ar y radio a'r teledu. Fe gafodd ei alw'n aml yn "the nation's teddy bear".[1]

Bywgraffiad golygu

 
John Betjeman yn ei ieuenctid.

Ganed John Betjemann ar 28 Awst 1906 yn fflat rhif 52 Parliament Hill Mansions, rhan o ystad Lissenden Gardens, yn ne ardal Hampstead Heath, Llundain. Dyn busnes cefnog oedd ei dad, o dras Almaenwyr ymfudodd i Loegr yn y 18g. Cafodd ei fagu yn unig blentyn ym mwrdeistref Highgate yng ngogledd y brifddinas, ac yno fe gafodd ei addysgu gan T. S. Eliot yn yr ysgol annibynnol leol. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd John ei fwlio am ei gyfenw Germanaidd, ac felly newidiodd ei fam yr enw i Betjeman gydag un "n". Bachgen unig oedd John, a oedd yn ymddiddori mewn trenau a mapiau rheilffyrdd ac yn cario'i dedi Archibald ymhob man. Aeth ymlaen i ysgol baratoi'r Dragon yn Rhydychen a Choleg Marlborough, ysgol fonedd yn Wiltshire.

Astudiodd Betjeman yng Ngholeg Magdalen ym Mhrifysgol Rhydychen o 1925 i 1928. Aeth â'i hen degan Archibald i Rydychen, ac hwnnw oedd yr ysbrydoliaeth am Aloysius, tedi-bêr y cymeriad Sebastian Flyte, yn y nofel Brideshead Revisited gan Evelyn Waugh.[1] Nid oedd Betjeman a'i diwtor, C. S. Lewis, yn hoff o'i gilydd. Treuliodd y mwyafrif o'i amser yn cymdeithasu, yn actio, ac yn ysgrifennu i gylchgronau myfyrwyr, a gadawodd y brifysgol heb iddo dderbyn ei radd. Gweithiodd am gyfnod fel meistr ysgol baratoi cyn iddo gael ei benodi'n olygydd cynorthwyol yr Architectural Review a beirniad ffilm yr Evening Standard.

Fe briododd Penelope Chetwode yn 1933, a chawsant dau blentyn, Paul a Candida. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd Betjeman i'r Weinyddiaeth Wybodaeth yn swyddog diwylliannol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Fe gafodd ei urddo'n farchog yn 1969, a'i benodi'n Fardd Llawryfog y Deyrnas Unedig yn sgil marwolaeth Cecil Day-Lewis yn 1972. Bu farw Betjeman yn Trebetherick, Cernyw, yn 77 oed.

Barddoniaeth golygu

Nodir barddoniaeth Betjeman gan "ei hiraeth am y gorffennol diweddar, ei synnwyr union o leoliad, a'i gyflwyniad manwl o arlliw cymdeithasol".[2] Un o'i gerddi enwocaf yw "Slough" (1937), sy'n dilorni'r datblygiadau diwydiannol yn nhref Slough yn Berkshire. Daeth y gerdd yn ddrwg-enwog ymhlith trigolion y dref, ac yn ddiweddarach fe fynegodd Betjeman ei ofid am ei hysgrifennu.

Ei ddiddordeb mewn pensaernïaeth golygu

 
Cerflun o Betjeman yng ngorsaf reilffordd St Pancras.

Ymddiddorai Betjeman mewn pensaernïaeth ei wlad, a phensaernïaeth eglwysi a gorsafoedd rheilffyrdd yn arbennig. Roedd yn hoff iawn o'r dulliau Fictoraidd ac Edwardaidd, yn enwedig adeiladau'r neo-Gothig, ac yn lladd ar foderniaeth ac effeithiau diwydiannaeth a "Chynnydd" ar drefluniau Prydain. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf ar bwnc pensaernïaeth, Ghastly Good Taste, yn 1933. Am gyfnod hir fe ysgrifennai'r adran "Nooks and Corners" yn y cylchgrawn Private Eye.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Jane Curran, "Sir John Betjeman in Oxfordshire and beyond", BBC (2 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 24 Hydref 2018.
  2. (Saesneg) John Betjeman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Hydref 2018.
Rhagflaenydd:
Cecil Day-Lewis
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig
20 Hydref 1972 – 19 Mai 1984
Olynydd:
Ted Hughes