Mynach Benedictaidd Seisnig a fu'n Esgob Bangor o 1533 hyd 1539 oedd John Capon, hefyd John Salcot neu Salcott (bu farw 1557).

John Capon
Bu farw1557 Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Catholig Bangor Edit this on Wikidata

Graddiodd yn B.A. o Brifysgol Caergrawnt yn 1488. Daeth yn brior Abaty Sant Ioan, Colchester, yna'n abad St Benet's Hulme, yn Norfolk. Roedd yn gefnogol iawn i ysgariad y brenin Harri VIII oddi wrth Catrin o Aragon.

Daeth yn abad Hyde yn 1530, yna'n esgob Bangor yn 1533, heb ganiatâd y Pab. Trosglwyddwyd ef i esgobaeth Salisbury yn 1539. Dan y frenhines Mari, bu ganddo ran ym mhrawf nifer o Brotestaniaid.