John Dee

mathemategydd, mesuronydd a seryddwr

Roedd Dr. John Dee (13 Gorffennaf 1527Rhagfyr 1608) yn fathemategydd nodedig, yn alcemydd, yn athronydd, yn ddaearyddwr, yn seryddwr ac ef oedd 'hoff athronydd' y Frenhines Elisabeth I, brenhines Lloegr. Roedd Dee o dras Gymreig a chafodd ei eni yn Llundain ble y bu’n byw gyda’i wraig, Jane Dee a'i blant.

John Dee
John Dee [1]
Ganwyd13 Gorffennaf 1527 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farwRhagfyr 1608 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Mortlake Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, mathemategydd, seryddwr, astroleg, daearyddwr, mapiwr, copïwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadRoland ap Bedo ap Dafydd Ddû ap John Dee Edit this on Wikidata
MamJane ferch William Wilde Edit this on Wikidata
PriodJane Dee Edit this on Wikidata
PlantArthur Dee Edit this on Wikidata

Mae tras Cymreig Dee yn cael ei ddangos yn ei ddyddiaduron ble mae’n sôn yn aml am ei gefndryd Cymreig; un ohonynt oedd Thomas Jones o Dregaron, sy'n fwy adnabyddus fel Twm Siôn Cati. Cyflwynodd Dee gynlluniau i sefydlu llyfrgell genedlaethol ond nid ariannwyd y cynllun hwnnw felly aeth ati i greu casgliad ei hun. Roedd ei lyfrgell, a oedd yn cynnwys sawl cyfrol yn y Gymraeg, gystal â rhai o lyfrgelloedd prifysgolion y cyfnod, ac o bosib y llyfrgell fwyaf yn Ewrop gyfan

Unodd Dee ddwy wyddor bwysicaf ei gyfnod, sef dewiniaeth a gwyddoniaeth. Ar yr adeg pan roedden nhw'n dechrau ffurfio, roedden nhw'n bynciau gwahanol, ac roedd alcemi, astroleg, a'r goruwchnaturiol yn rhan bwysig o'i waith hefyd. Ystyrir ef fel un o feddylwyr mwyaf ei oes; bu'n darlithio ar algebra ym Mharis pan oedd yn ei ugeiniau ac roedd yn fordwywr heb ei ail. Yn y 1580au, wrth annog llongwyr ifanc i geisio darganfod y Northwest Passage, er enghraifft, bathodd y term yr Ymerodraeth Brydeinig.

Credai'n gryf yn Hermes Trismegistus a 'rheswm pur', purdeb yr enaid a meddyliau Paganaidd deallusol. Treuliodd draean olaf ei oes yn ceisio sgwrsio gydag angylion gan obeithio deall iaith y Crëwr.

Roedd yn gynghorydd ac yn athro i Elisabeth I o Loegr a daeth Dee i adnabod dau o'i Phrif Weinidogion; Francis Walsingham a William Cecil. Roedd hefyd yn gyfaill i'r mathemategydd o Gymru Robert Recorde.

Cedwir siart achau a baratowyd ar gyfer John Dee yn y Llyfrgell Brydeinig.[2] Cadwodd y teulu, gan gynnwys John Dee ei hun, gysylltiad agos â'r ardal.

Ei nod mawr drwy ei fywyd oedd uno'r Pabyddion a'r Protestaniaid ac ail lansio'r cwbl dan gochl hen ddiwinyddiaeth yr oesoedd coll.

Glyff personol Dee; esboniodd ei ystyr yn fanwl yn ei lyfr Monas Hieroglyphica.

Mae'r glyff a luniodd yn dangos fod y cosmos cyfan fel un, ac mae'n cynnwys nifer o symbolau astroleg, ond ni wyddom y cyfan am y glyff hwn gan i Dee ysgrifennu'r cwbl mewn cod eithaf cyfrin.

Roedd Dee yn ysbïwr i Elisabeth I yn ôl rhai. Yn hytrach na defnyddio'i lofnod arferol ar ei lythyrau at y frenhines, defnyddiai'r rhifolion "007"; efallai mai oddi yma y cafodd Ian Fleming y syniad yn ei nofelau am James Bond.

Bywyd cynnar golygu

Cyrhaeddodd hynafiaid John Dee Lundain yn dilyn coroni Harri Tudur yn Harri VII.[3] Daw'r enw 'Dee' o'r gair Cymraeg du, gan mai ei daid oedd Bedo Du o Nant-y-groes, Pilalau, Sir Faesyfed.

Roedd ei dad Rowland yn ymwneud â defnydd a thecstilau yn llys y brenin Harri VIII, brenin Lloegr, gan greu dillad ar gyfer y teulu brenhinol, mae'n debyg. Jane Wild oedd enw'i fam a phriododd hi dad John Dee pan oedd hi'n bymtheg oed. Dair blynedd yn ddiweddarach ganwyd John, eu hunig blentyn, yn Tower Ward. Mynychodd Ysgol Babyddol Chelmsford (ei henw bellach yddi 'King Edward VI Grammar School, Chelmsford'). Rhwng 1543 a 1546, aeth i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt. Yn sydyn iawn sylweddolodd ei athrawon fod hwn yn fachgen galluog eithriadol. Cafodd ei wneud yn gymrawd sefydlol ('founding fellow') yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt oherwydd ei allu anghyffredin.

He was so eager to learn, he later recalled, so "vehemently bent to study", that he worked eighteen hours a day, allowing just four hours for sleep and two for meals. Mathematics was his passion ... ebe Wooley.

Ei waith golygu

Roedd John yn arbenigwr ar fordwyo, a daeth nifer o fforwyr mawr ato am gyngor a gwybodaeth. Roedd ganddo gasgliad enfawr o fapiau ac offer fforio, a dysgodd y pwnc i rai o gapteiniaid gorau'r cyfnod.

Ar gais Elisabeth, aeth ati i amlinellu hawl Lloegr dros wledydd newydd eu darganfod ac yn eu plith America. Hawliodd mai Madog ab Owain Gwynedd a ddarganfu'r cyfandir newydd, a hynny yn 1170. Roedd hawl felly i Loegr goloneiddio'r wlad ymhellach.

Y cyfrinydd golygu

Ym 1555 cafodd John ei arestio. Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd iddo greu horosgopau o frenhines Lloegr ar y pryd, sef Mari I a'r Dywysoges Elisabeth.[4]

Cafodd ei holi'n dwll gan yr Esgob (Catholig) Bonner am ei ddaliadau crefyddol ac yn y pen draw cliriwyd ei enw. Roedd yn gwaethygu'r sefyllfa drwy fod mor gyfrin ym mhopeth a wnâi. Taflwyd cyhuddiadau fel hyn ato dro ar ôl tro yn ystod ei oes.

Pan gafodd Elisabeth ei choroni'n frenhines yn 1558, at Dee ei chynghorydd ffyddlon y trodd am gyngor ac am ddyddiad ar gyfer y coroni.[5][6] Ef oedd ei "magus" (gŵr doeth).

Steganographia golygu

 
Siart o Steganographia gan Johannes Trithemius yn llaw John Dee, 1591

Mae gwaith ymchwil diweddar wedi priodoli un o destunau astrolegol y 16g i law Dr John Dee. Teitl y gwaith, a ysgrifennwyd yn wreiddiol mewn Lladin tua diwedd y 1490au gan Johannes Trithemius (1462-1516), oedd Steganographia. Cafodd y gwaith hwn ei drawsysgrifio yn 1591 gan Dr John Dee ac roedd gyfrol o destunau astrolegol oedd yn cynnwys 114 tudalen. Ystyr ‘Steganography’ ydi’r broses o ysgrifennu mewn cod cyfrinachol.

Nid dyma'r unig adysgrif a wnaed gan Dee o'r gwaith hwn. Ar y pryd, roedd galw mawr am y Steganographia dros Ewrop gyfan, ac yn 1563 roedd Dee wedi olrhain copi a oedd ym meddiant uchelwr Hwngaraidd dienw. Teithiodd Dee yn bell iawn er mwyn gwneud adysgrif ohono. Tua diwedd y 1580au, tra’r oedd Dee a'i deulu yn teithio Ewrop, cafodd nifer o gyfrolau o’i lyfrgell eu dwyn. Mae'n debyg ei fod wedi colli ei gopi gwreiddiol o’r Steganographia bryd hynny, ac wedi creu’r adysgrif diweddarach hon yn ei le.

Yn ddiweddarach, bu’r gyfrol hon yn eiddo i John Jones, Gellilyfdy, cyn iddi gyrraedd Robert Vaughan a chasgliad Hengwrt. Yn 1904 roedd y ‘Steganographia’ yn rhan o gasgliad a brynwyd gan Syr John Williams ac yn 1909 trosglwyddwyd y llawysgrifau i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Roedd yr awdur wedi defnyddio ffurf glyfar o amgryptio cynnwys y gyfrol ac nid ydym yn gwybod a oedd John Dee yn deall y system hon, nac ychwaith a wnaeth ef ei defnyddio. Roedd hi’n hysbys ei fod wedi defnyddio gwahanol ieithoedd a seifferau yn ei ysgrifau, a byddai codau o'r fath yn sicr yn ddefnyddiol i’w ffrind, Syr Francis Walsingham, a ddatblygodd arbenigedd mewn atal gweithgareddau cudd tra’r oedd yn gweithio fel Ysgrifennydd Preifat i’r Frenhines Elisabeth I. Mae'n ddigon posib bod Dee wedi ei ddenu at y defodau a’r swynion gan ei fod yn credu, fel nifer o’i gyfoedion, bod modd darganfod gwybodaeth drwy sgwrsio gydag ysbrydion.[7]

Mathematical Preface golygu

Ei lyfryn pwysicaf mae'n debyg yw "Mathematical Preface", sef rhagarweiniad i gyfieithiad gan Henry Billingsley o Elfennau gan Euclid yn 1570. Ynddo roedd yn dadlau dros bwysigrwydd mathemateg a'r modd mae mathemateg yn effeithio ac yn dylanwadu ar y celfyddydau a'r gwyddorau eraill.[8] Mae'n ymddangos bod yr 'erthygl' neu'r llyfryn cyntaf wedi ei anelu at wyddonwyr eraill - a hynny mewn unrhyw iaith.

Roedd gan John Dee, yn ôl y sôn, y llyfrgell fwyaf ym Mhrydain ac mae’r ffaith ei fod wedi cael ei ddewis i ysgrifennu’r rhagarweiniad yn dangos bod parch uchel iddo. Bu ei waith ym maes mathemateg yn bwysig o ran dangos pa mor ddefnyddiol oedd y pwnc o ddydd i ddydd. Ar yr adeg hon, nid oedd mathemateg ym Mhrydain wedi datblygu i’r un graddau ag yr oedd ar dir mawr Ewrop, ac roedd yn cael ei ystyried fel pwnc oedd yn ddefnyddiol mewn meysydd fel alcemi ac astroleg yn unig. Dangosodd Dee er hynny ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer pynciau eraill fel peirianneg a hydroleg.[9]

Bywyd personol golygu

 
Edward Kelly

Priododd Dee ddwywaith a chafodd wyth o blant. Parodd y briodas gyntaf o 1565 hyd at farwolaeth ei wraig yn 1576. O 1577 hyd 1601 cadwodd ddyddiadur manwl. Ar 5 Chwefror 1575 priododd Jane Fromond; roedd hi'n 21 oed ac yntau'n 51 ar y pryd. Alcemydd oedd ei fab hynaf hefyd, sef Arthur.

Ysgrifennodd gŵr oedd yn adnabod John Dee yn dda:

"He was tall and slender. He wore a gown like an artist's gown, with hanging sleeves, and a slit.... A very fair, clear sanguine complexion... a long beard as white as milk. A very handsome man."

Roedd Dee'n gefnder i Blanche Parry, un o gyfeillion mynwesol, Chief Gentlewoman a Cheidwad Tlysau Elisabeth I, brenhines Lloegr.

Angylion a rhyw golygu

 
Llun dau ddewin ac angel gan Edward Kelly

Mae dyddiaduron John yn llawn disgrifiadau manwl a chofnodir ynddynt fisglwyf Jane, eu cyfathrach rywiol a genedigaethau eu plant. Cofnodir, mewn un, erthyliad un o'r babanod, er mwyn i John ddeall y broses o genhedlu'n well.[10]

Yn 1582, dechreuodd John gyfathrebu ag 'angylion' gyda chydweithiwr a chyfaill iddo, sef Edward Kelly (alias Talbot). Doedd gan Jane fawr o feddwl o Kelly o'r cychwyn a chofnodir drwgdeimlad y ddau at ei gilydd gan John. Pan briododd Kelly ferch ifanc o'r enw Joanna Cooper, fe'i hesgeuluodd hi, a daeth drwgdeimlad Jane yn atgasedd pur at Kelly. Roedd ei chydymdeimlad llwyr gyda Joanna.[11]

Yn 1585, gofynnodd Jane i Kelly am gymorth er mwyn iddi gynnal sgwrs gyda'r angylion. Gofynnodd i'r angylion am gymorth ariannol, gan nad ganddynt lawer o arian. Yn ôl John Dee, gofynnodd Jane:

We desire, God, of his greate and infinite mercies to grant us the helpe of His hevenly mynisters, that we Mai by them be directed how or by whom to be ayded and released in this neccessitie for meate and drinke for us and for our familie, wherewith we stand at this instant much oppressed.[12]

Yn 1587 pan roedd y ddau deulu'n byw yn Třeboň, yn yr hyn a elwir heddiw yn Weriniaeth Tsiec, honodd Kelly fod yr angylion 'Madimi' ac 'Ill' wedi ei hysbysu y dylai'r ddau gwpwl gyfnewid gwragedd. Ar y cychwyn, gwrthwynebodd John yn hallt, ond newidiodd ei feddwl oherwydd dyfalbarhad yr angylion (drwy Talbot). Pan hysbysodd John ei wraig, 'disgynnodd hi i'r llawr yn llefain ac mewn gwewyr o gryndod am chwarter awr'. Fe'i darbwyllwyd gan John, pan fynnodd ef mai hyn oedd ewyllys Duw, ac y dylai'r ddau ddyn rannu'r cyfan a oedd ganddynt. Arwyddodd y ddau gwpwl gytundeb, cyfnewidiwyd partneriaid a chafwyd cyfathrach rywiol.

Heddiw golygu

Cafodd tŷ John (a oedd ym Mortlake, Surrey) ei losgi gan y trigolion lleol yn 1583. Bu farw ei wraig a nifer o'i blant ym 1605 a hynny o'r Pla Du. Ym 1608, bu farw John yn 81 mlwydd oed a chafodd ei gladdu ym mynwent Eglwys Mortlake. Nid oes carreg yno i'w gofio. Mae fel petai wedi diflannu o wyneb y ddaear. Tynnwyd yr hen dŷ i lawr ar ôl iddo farw a chodwyd 'The Mortlake Tapestry Works' ar y tir ym 1619. Cafodd yr adeilad hwn ei ddymchwel ym 1951 a saif carreg i goffau'r lle; ond nid oes gair am y Dewin John Dee yno.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ni wyddom pwy yw'r arlunydd. Yn ôl Charlotte Fell Smith, dyma lun o John Dee pan oedd yn 67 oed. Cafodd ei basio i lawr i'w ŵyr sef Rowland Dee ac yna'n ddiweddarach i Elias Ashmole, a adawodd y llun i Brifysgol Rhydychen.
  2. John Dee's genealogy and self-portrait Archifwyd 2020-12-22 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 14 Gorffennaf 2019.
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 28 Tachwedd 2015
  4. Fell Smith, Charlotte (1909). John Dee: 1527–1608. London: Constable and Company.
  5. John Dee and the English Calendar: Science, Religion and Empire gan Dr. Robert Poole. Cyhoeddwyd gan Institute of Historical Research, 2005
  6. John Dee and Early Modern Occult Philosophy, cyfrol 1, 2004
  7. "Steganographia | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-06. Cyrchwyd 2020-05-22.
  8. John Dee (1527–1608): Alchemy — the Beginnings of Chemistry.
  9. "Euclid's Elements". National Library of Wales Blog (yn Saesneg). 2018-07-09. Cyrchwyd 2020-05-22.
  10. Harkness, tud.256
  11. Susan Bassnett, 'Absent Presences: Edward Kelley's Family in the Writings of John Dee' in Stephen Clucas (ed.), John Dee: Interdisciplinary Studies in English Renaissance Thought (Dordrecht, 2006), pp 227-8
  12. Deacon, p. 192

Gweler hefyd golygu