John Edward Jones

ysgrifennydd a threfnydd Plaid Cymru

Gwleidydd a fu'n un o ffigyrau amlycaf Plaid Cymru yn ei chyfnod cynnar oedd John Edward Jones, mwy adnabyddus fel J. E. Jones (10 Rhagfyr 1905 - 30 Mai 1970). Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol y blaid rhwng 1930 a 1962.

John Edward Jones
Ganwyd10 Rhagfyr 1905, 1905 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1970, 1970 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata

Ganed ef ym Melin y Wig yn yr hen Sir Feirionnydd. Bu farw ei dad cyn iddo fod yn flwydd oed. Aeth i Ysgol Ramadeg y Bala, 1918-24, yna i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor, lle bu'n ysgrifennydd Undeb y Myfyrwyr. Roedd yn un o sylfaenwyr "Cymdeithas y tair G", un o'r sefydliadau a unodd i greu Plaid Cymru yn Awst 1925.

Wedi cyfnod yn Llundain, daeth yn ysgrifennydd a threfnydd y Blaid Genedlaethol yn 1930, a threfnodd lawer o ymgyrchoedd yn y swydd yma. Rhoddodd y gorau i'r swydd oherwydd afiechyd yn 1962.

Cyhoeddiadau golygu

  • Llyfr garddio (Llandybie: Llyfrau'r Dryw, 1969).
  • Tros Gymru : J.E. a'r blaid (Abertawe: Gwasg John Penry, 1970).