John Edwards, Barwnig 1af Garth

barwnig ac aelod seneddol

Roedd Syr John Edwards, Barwnig cyntaf Garth (15 Ionawr 1770 - 15 Ebrill 1850) yn wleidydd Chwig / Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn[1]

John Edwards, Barwnig 1af Garth
Ganwyd15 Ionawr 1770 Edit this on Wikidata
Plas Machynlleth Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 1850 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PlantMary Vane-Tempest Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Edwards ym 1770 yn fab i John Edwards, cyfreithiwr y Plas, Machynlleth a Cornelia unig blentyn byw ac aeres Richard Owen, Garth, Llanidloes. Roedd y teulu yn honni disgyniad o Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd.[2]

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen.

Ym 1792 priododd Catherine ferch hynaf a chyd etifedd Col. T Browne, Neuadd Mellington, yr Ystog, ni fu iddynt blant. Ym 1825 priododd Harriet ferch y Parch Charles Johnson a gweddw John Herbert Owen, ystâd Dolforgan. Bu iddynt un ferch Mary Cornelia a briododd Ardalydd Londonderry.

Gyrfa golygu

Ar farwolaeth ei dad ym 1789 daeth Edwards yn etifedd Ystadau'r Plas a'r Garth gan ychwanegu at faint ei ystâd trwy ei briodasau, ei brif yrfa, gan hynny oedd un y sgweier, y tirfeddiannwr a'r landlord.

Bu hefyd yn gwasanaethu fel Is Gyrnol Milisia Gorllewin Sir Drefaldwyn

Gyrfa Wleidyddol golygu

Cyn Deddf Diwygio'r Senedd 1832, dim ond pobl tref Trefaldwyn oedd yn cael pleidleisio yn etholaeth y fwrdeistref, roedd y dref, a gan hynny'r sedd, ym mhoced teulu Herbert Castell Powys. O dan delerau'r ddeddf caniatawyd pleidleisiau i wŷr cymwys o drefi Machynlleth, Llanidloes , y Trallwng , Llanfyllin a'r Drenewydd. Gwelodd Edwards gyfle i dorri grym yr Herbertiaid a'r Torïaid gan ganfasio a thretio'r darpar etholwyr newydd wrth i'r Bil ymlwybro trwy'r Senedd a dyfod yn Ddeddf, gan wario ffortiwn o £20,000 ar y dasg (tua £76 miliwn yn 2014 yn ôl gwerth grym economaidd cymharol y bunt)[3], er hynny collodd yr etholiad i David Pugh, yr ymgeisydd Torïaidd a noddwyd gan Gastell Powys:

Etholiad cyffredinol 1832: Bwrdeistref Trefaldwyn
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr David Pugh 335 51.1
Rhyddfrydol John Edwards 321 48.9

Heriodd Edwards y canlyniad ger bron Llys Etholiadol y Senedd, enillodd yr achos a gorchymynnwyd etholiad newydd, gan wahardd Pugh rhag ail ymgeisio. Canlyniad yr etholiad newydd oedd bod Edwards wedi ennill o 10 bleidlais:

Isetholiad Bwrdeistref Trefaldwyn 1833
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Edwards 331 50.8
Ceidwadwyr Panton Corbett 321 49.2
Mwyafrif 10
Y nifer a bleidleisiodd 652 90.2
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Heriwyd y canlyniad gan yr ymgeisydd Torïaidd, Panton Corbett, yn y Llys Etholiadol ond dyfarnwyd o blaid Edwards. Llwyddodd i gadw ei sedd hyd etholiad 1841 pan gafodd ei drechu gan Hugh Cholmondeley.

Bu'n gwasanaethu fel Uchel Siryf Sir Feirionnydd ym 1805 ac fel Uchel Siryf Sir Drefaldwyn ym 1818.

Cafodd ei greu'n Farwnig ym 1838

Marwolaeth golygu

Bu farw yn y Plas, Machynlleth ym 1850 yn 80 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys San Pedr, Machynlleth.

Cyfeiriadau golygu

  1. EDWARDS , Syr JOHN (1770 - 1850), Y bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 8 Medi, 2015
  2. Montgomeryshire Worthies, Williams, Richard, 1894 t 54-55 [2] adalwyd 8 Medi 2015
  3. MeasuringWorth [3] Archifwyd 2016-04-11 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 8 Medi 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Pugh
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn
18331841
Olynydd:
Hugh Cholmondeley