John Evans, Llwynffortun

offeiriad a gweinidog Methodistaidd

Roedd John Evans (1 Hydref 1779 - 6 Hydref 1847) yn un un o weinidogion cyntaf i gael ei ordeinio gan y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru wedi i'r Methodistiaid torri efo Eglwys Loegr.[1]

John Evans, Llwynffortun
GanwydHydref 1779 Edit this on Wikidata
Pencader Edit this on Wikidata
Bu farw6 Hydref 1847 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd John Evans yng Nghwm Gwen ger Pencader Sir Gaerfyrddin yn blentyn i John Evans a Rachel ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgolion y fro gan gynnwys cyfnod o dan arolygaeth gŵr o'r enw Mr Jones, Maesnoni a dysgodd Lladin, Groeg a Hebraeg iddo. Yn 16 mlwydd oed agorodd ei ysgol ei hun yn Llanpumsaint. Dechreuodd cynghori ym 1796 ag aeth i Athrofa Caerfyrddin ym 1798 ond ni fu yna'n hir.[2]

Teulu golygu

Ym 1808 priododd â Mrs Jones, gwraig weddw oedd yn byw mewn tyddyn o'r enw Llwynffortun, Llanegwad, yn nyffryn Tywi. Fel John Evans Llwynffortun roedd yn cael ei adnabod wedyn. Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf priododd Rachel Davies o Bentwyn, Llan-non, Sir Gaerfyrddin, a threuliodd weddill ei oes yn ei chartref hi.

Gyrfa golygu

Annibynwyr oedd rhieni John Evans, ond wedi clywed Dafydd Jones, Llan-gan, yn pregethu yng Ngwaun Ifor ymunodd John a'r Methodistiaid Calfinaidd. Gan fod y Methodistiaid Calfinaidd, ar y pryd, yn gymdeithas grefyddol o fewn Eglwys Loegr, cafodd ei dderbyn yn aelod o'r eglwys honno hefyd.[3]

Ym 1808 cafodd ei hordeinio yn ddiacon Eglwys Loegr gan Richard Watson, Esgob Llandaf. Gwasanaethodd fel curad ym Mynyddislwyn, Pen-y-bont a Threlales am gyfnodau byr. Nid oedd ei sêl Fethodistaidd at ddant nifer o'i blwyfolion a bu cwyno amdano wrth ei esgob. Roedd rhai o arweinwyr yr Eglwys hefyd yn anhapus ar ffaith bod cannoedd os nad miloedd o wrandawyr yn dod i wrando ar y Curad ifanc yn bregeth a'i bod yn aml yn gorfod pregethu yn y fynwent gan fod dim digon o le yn yr Eglwys. Yn y pendraw danfonwyd Evans i fod yn Giwrad ar Eglwys Llanddowror, cyn eglwys Griffith Jones ac eglwys oedd wedi arfer ag offeiriaid tanllyd, poblogaidd. Bu yn Llanddowror am ychydig dros flwyddyn. Ni chafodd cwbl urddau'r offeiriadaeth na bywoliaeth uwch nag un ciwrad gan Eglwys Loegr. Pan benderfynodd y Methodistiaid ymwahanu o'r eglwys ym 1811 ac i ordeinio ei weinidogion ei hun roedd Evans yn un o'r rhai cyntaf i gael ei dderbyn i'r weinidogaeth Fethodistaidd yn y cyfarfod ordeinio cyntaf yn Llandeilo. Bu wedyn yn teithio fel gweinidog Methodistaidd trwy Gymru hyd at ychydig flynyddoedd cyn ei farwolaeth.[4]

Marwolaeth golygu

Trwy gydol ei oes bu Evans yn dioddef o'r hyn a elwid Y Dduwg gan ei gydnabod. Mae'n debyg bod hyn yn rhyw fath o salwch meddwl a oedd yn ei wneud yn isel ei ysbryd ac yn llesg ar adegau. Am bump neu chwe blynedd olaf ei fywyd bu hefyd yn dioddef o ddiabetes. Mae'n debyg mae'r diabetes a achosodd ei farwolaeth. Claddwyd ei weddillion ym mynwent capel Pentwyn, Llan-non.[4]

Cyfeiriadau golygu