John Gower

ysgrifennwr, bardd (1330-1408)

Bardd o Sais oedd John Gower (tua 1330 – Hydref 1408) a ystyrir yn un o lenorion pwysicaf y Saesneg Canol. Cyfansoddodd gerddi hefyd yn Eingl-Normaneg ac yn Lladin.[1]

John Gower
Ganwydc. 1330 Edit this on Wikidata
Caint Edit this on Wikidata
Bu farwHydref 1408, 1408 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amConfessio Amantis, Unanimes esse qui secula, Vox Clamantis, Mirour de l'Omme, Le traitié pour essampler les amantz marietz, Cinkante balades, Cronica tripertita, Carmen super multiplici viciorum pestilencia, Rex celi deus, Quicquid homo scribat (In fine), Quia unusquisque, Presul ouile regis, In praise of peace, O recolende, Orate pro anima, O deus immense, H. aquile pullus, Est amor, Eneidos bucolis, Ecce patet tensus, Dicunt scripture, De lucis scrutinio, Cultor in ecclesia Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Mae iaith Gower yn awgrymu iddo hanu o Gaint, ac mae'n bosib yr oedd ganddo deulu o Swydd Efrog. Roedd o bosib yn dirfeddiannwr, yn sicr yn ddyn cefnog, ac mae cyfeiriadau yn ei farddoniaeth yn dangos ei wybodaeth o Lundain, a thybir felly yr oedd yn swyddog yn y llys brenhinol. Roedd yn gyfaill i Geoffrey Chaucer, ac yn hawlio iddo gydnabod y Brenin Rhisiart II. Yn 1399 gwobrwywyd iddo ddwy gasgen i win, anrheg a fyddai'n derbyn pob blwyddyn am weddill ei oes, ar orchymyn Harri IV wedi i Gower dalu teyrnged iddo mewn un o'i gerddi. Yn 1397, pan oedd Gower yn byw'n ddyn lleyg ym mhriordy St Mary Overie yn ardal Southwark, fe briododd ag Agnes Groundolf. Erbyn 1400, roedd y bardd yn ddall. Bu farw yn 1408, a fe'i cleddir ym mhriordy Southwark.[2]

Barddoniaeth golygu

Mae saith o weithiau Gower yn goroesi: yn Normaneg, Mirour de l'Omme (1370au), Traité pour essampler les amants marietz (1397), a Cinkante Balades (1399–1400); yn Lladin, Vox Clamantis (c.1377–1381) a Cronica Tripertita (tua 1400); ac yn Saesneg Canol, Confessio Amantis (c.1386–1393) ac In praise of peace (tua 1400).

Cerdd alegorïaidd o ryw 30,000 o linellau wythsill ydy Mirour de l'Omme, a elwir hefyd Speculum Hominis neu Speculum Meditantis. Egyr y gerdd gyda disgrifiadau o briodas y diafol â merched y saith bechod a phriodas rheswm â'r saith rhinwedd. Yna ceir ymdriniaeth danbaid o bechodau yng nghymdeithas Lloegr. Yn llinellau olaf y gerdd mae'r bardd yn rhoi'r gorau i'w geryddu er mwyn canu emyn hir i'r Forwyn Fair. Mae'r ymosodiad chwyrn hwn ar ei gyd-Saeson yn adlewyrchu'r llygredigaeth swyddogol a'r anfodlonrwydd ymysg y bobl gyffredin a arweiniodd at Wrthryfel y Werin yn 1381. Casgliad o ganeuon serch ar gyfer llys brenhinol Lloegr yw Cinkante Balades.

Mae ei brif waith Lladin, Vox Clamantis, yn gerdd homiletig yn y mesur elegeiog sy'n dangos dylanwad Ofydd. Beirniadaeth ydyw o'r tair ystâd gymdeithasol: y glerigiaeth, y bendefigaeth, a'r werin bobl. Gellir ei ystyried hefyd yn ffurf ar lyfr drych, gwaith gwleidyddol â'r nod o gynghori brenhinoedd a thywysogion.

Cerdd Saesneg bwysicaf Gower ydy Confessio Amantis, casgliad o esiamplau o serch llys a chariad Cristnogol. Addasir y rheiny o ffynonellau clasurol a chanoloesol yn bennaf.

Cyfeiriadau golygu

  1. Grey, Douglas. "John Gower." Oxford Dictionary of National Biography. Oxford UP, 2004.
  2. (Saesneg) John Gower. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Medi 2019.