John Lloyd-Jones

ysgolhaig a bardd

Ysgolhaig a bardd oedd John Lloyd-Jones (14 Hydref 18851 Chwefror 1956), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin Cymru.

John Lloyd-Jones
Ganwyd14 Hydref 1885, 1885 Edit this on Wikidata
Dolwyddelan Edit this on Wikidata
Bu farw1 Chwefror 1956, 1956 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed John Lloyd-Jones ym mhentref Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr, Sir Gaernarfon (Sir Conwy heddiw). Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, lle bu'n un o ddisgyblion John Morris-Jones, a Rhydychen. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa goleg fel darlithydd mewn Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, lle denodd lu o fyfyrwyr disglair yn cynnwys T. J. Morgan, Bobi Jones a J. E. Caerwyn-Williams.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922 am ei awdl 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (1928) a Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg (1931-63), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi Cymraeg Canol a Hen Gymraeg a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi saitth rhan. Cyhoeddwyd wythfed ran ym 1963 mor bell â'r gair heilic ar ôl ei farwolaeth.

Mewn coffâd iddo yn y Times, dywedwyd iddo fod yn "llysgennad answyddogol" dros Gymru ac Iwerddon.[1] Roedd yn arholwr allanol Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru rhwng 1916 a 1955 pan ymddeolodd.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Prof. J. Lloyd-Jones – Welsh ambassador in Ireland". The Times. 17 February 1956. t. 11.
  2. Parry, Thomas. "Lloyd-Jones, John (1885–1956), scholar and poet". Welsh Biography Online. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2008.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.