Roedd John Martyn, OBE (11 Medi 194829 Ionawr 2009), a ganed yn Iain David McGeachy, yn ganwr, gitarydd a cherddor Prydeinig. Dros yrfa 40-mlynedd, fe ryddhaodd 21 albwm stiwdio, gan dderbyn adnabyddiaeth feirniadol gyson. Cychwynnodd ei yrfa yn 17 mlwydd oed fel aelod allweddol o'r sin gerddoriaeth gwerin, gan dynnu ysbrydoliaeth o gerddoriaeth blues Americanaidd a cherddoriaeth Saesneg traddodiadol, a llofnodi gyda Island Records. Erbyn yr 1970au dechreuodd gynnwys dylanwadau jazzroc i'w sain ar albymau megis Solid Air (1973) ac One World (1977), yn ogystal ag arbrofi gydag effeithiau gitâr a pheiriannau oedi tâp fel Echoplex. Cafodd gyfnod anodd gyda chamddefnyddio sylweddau a phroblemau teuluol trwy gydol yr 1970au a'r 1980au, er fe barhaodd i ryddhau albymau tra'n cydweithio ag artistiaid fel Phil Collins a Lee "Scratch" Perry. Parhaodd i weithio tan ei farwolaeth yn 2009. Disgrifiwyd gan The Times fel "gitarydd a chanwr gwefreiddiol yr oedd ei gerddoriaeth yn pylu'r ffiniau rhwng gwerin, jazz roc a'r blues".

John Martyn
FfugenwJohn Martyn Edit this on Wikidata
GanwydIan David McGeachy Edit this on Wikidata
11 Medi 1948 Edit this on Wikidata
New Malden Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ionawr 2009 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
St. Luke's General Hospital Edit this on Wikidata
Label recordioIsland Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Shawlands Academy
  • Ysgol y Celfyddydau Glasgow Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, gitarydd, canwr, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcanu gwerin, cerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
PriodBeverley Martyn Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.johnmartyn.com/ Edit this on Wikidata