John Orlando Parry

cyfansoddwr a aned yn 1810

Roedd John Orlando Parry[1] (3 Ionawr 1810 - 20 Chwefror 1879) yn gerddor, actor, pianydd, arlunydd, digrifwr a chanwr Cymreig.[2]

John Orlando Parry
Ganwyd3 Ionawr 1810 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1879 Edit this on Wikidata
Molesey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfansoddwr, actor llwyfan, canwr, pianydd Edit this on Wikidata
TadJohn Parry Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd Parry yn unig fab i'r cerddor John Parry (Bardd Alaw) [3] a Maria ei wraig. Fe'i ganed yn Llundain a chafodd ei fedyddio yn Eglwys St. Anne, Soho ar 8 Chwefror 1810.[4] Yn ifanc iawn, cafodd ei ddysgu gan ei dad i ganu'n lleisiol ac i ganu'r delyn a'r piano. Astudiodd y delyn o dan Robert Bochsa hefyd.[5]

Gyrfa golygu

Ymddangosodd fel perfformiwr ar y delyn am y tro cyntaf ym mis Mai 1825 fel Master Parry.[6] Fel canwr bariton gwnaeth ei début ar 7 Mai 1830 yn Ystafelloedd Sgwâr Hanover, Llundain, mewn cyngerdd gan Franz Cramer, pan ganodd Arm, arm, ye brave! Handel, gyda llawer o glod.

Roedd Parry hefyd yn ddarlunydd.[7]

Ar ôl derbyn gwersi gan Syr George Smart mewn cerddoriaeth gysegredig a chlasurol, roedd galw mawr amdano fel canwr yng nghyngherddau'r Antient and Philharmonic, a hefyd mewn gwyliau cerddorol ar hyd gwledydd Prydain. Iddo ef cyfansoddodd Sigismund Neukomm Napoleon's Midnight Review, a sawl cân arall, roedd ar ei orau fel canwr wrth berfformio baledi syml. Ym 1833 ymwelodd â'r Eidal, a derbyniodd gyfarwyddyd gan Luigi Lablache yn Napoli, lle bu'n byw am beth amser. Yn Posilippo rhoddodd gyngerdd mewn theatr yn perthyn i'r impresario Domenico Barbaja, a oedd yn cynnwys bwrlésg ar Othello, gyda Parry yn chware Desdemona, wedi gwisgo fel Madame Vestris (diva opera Seisnig enwog), ac yn canu Cherry Ripe. Ymddangosodd hefyd gerbron brenin a brenhines y Ddwy Sisilia, a rhoddodd ddynwarediadau o Lablache, Rubini, a Malibran mewn ffug driawd Eidalaidd.

Dychwelodd i wledydd Prydain ym 1834, wedi perffeithio ei afael ar yr iaith Eidaleg.

Ym mis Gorffennaf 1836 cynhaliodd ei gyngerdd budd cyntaf yn ystafelloedd cyngerdd Sgwâr Hanover, pan ganodd y diva Sbaeneg Maria Malibran iddo, ac ymunodd â hi yn ddeuawd Mazzinghi When a little farm we keep. Cynhaliwyd y cyngerdd dan nawdd Cymdeithas y Cymmrodorion, a chymerai prif gantorion Llundain ran ynddo.[8] Rhoddodd ei berfformiad lwyfan cyntaf yn Theatr St. James, ar 29 Medi 1836, mewn burletta (opera ddigrif fer) o'r enw The Sham Prince, wedi'i ysgrifennu a'i gyfansoddi gan ei dad. Cafodd dderbyniad da, ac ar 6 Rhagfyr yn yr un flwyddyn ymddangosodd yn Delicate Attentions gan John Poole, ac mewn burletta, The Village Coquettes, a ysgrifennwyd gan Charles Dickens, gyda cherddoriaeth gan John Hullah. Wedi hynny bu am dymor byr yn yr Olympic Theatre. Erbyn 1839, roedd Parry yn ddechrau cael enw da fel canwr comig. Yn 1840 cyfansoddodd a chyhoeddodd opera ddigrif o'r enw Wanted, a Governess.[7]

 
Parry tua 1840

Ym 1842 rhoddodd y gorau i waith llwyfan o blaid perfformiadau yn yr ystafell gyngerdd.[9] Aeth ar daith yng nghwmni Camillo Sivori, Franz Liszt, Sigismund Thalberg ac eraill trwy wledydd Prydain [2] gan ennill clod eang am ei bwerau fel pianydd a gwreiddioldeb ei leisio buffa. Ym 1849 ysgrifennodd Albert Smith darn o'r enw Notes Vocal and Instrumental, a gynhyrchwyd gan Parry ar 25 Mehefin 1850 yn Bedford Square, Llundain, wedi ei ddarlunio â phaentiadau mawr ddyfrlliw o'i waith ei hun. Yn y sioe fe gyflwynodd Parry fonologau, canodd mewn gwahanol leisiau, canodd y piano, a gwnaeth newidiadau gwisg gyflym. Roedd y sioe yn llwyddiant ysgubol. Ar 17 Awst 1852, cyflwynodd sioe un dyn newydd, o'r enw The Portffolio for Children of all Ages,[10] a pharhaodd gyda llawer o lwyddiant hyd Awst 1853.[11] Fodd bynnag, profodd straen y sioe yn ormod, a arweiniodd at chwalfa nerfol. Pan wellodd rywfaint, daeth yn organydd yn Eglwys St Jude, Southsea, a rhoddodd wersi canu.[12]

Ar 4 Mehefin 1860, ymunodd â Thomas German Reed a'i wraig yn Regent Street, Llundain.[13] Perfformiodd yno am bron i naw mlynedd, gan gyflwyno cyfres o ddynwarediadau doniol a monologau cerddorol bu'n ysbrydoliaeth i ddigrifwyr eraill, gan gynnwys George Grossmith. Creodd sgetshis comig wedi eu haddurno'n gerddorol gan ganeuon doniol. Ef oedd awdur a chyfarwyddwr pob elfen o'i sioe, yr ysgrifennu, y cyfansoddi a'r cyfeiliant.

Ymddeoliad golygu

Ar 7 Chwefror 1877 perfformiodd cyngerdd fudd ffarwel yn Theatr Gaiety i nodi ei ymddeoliad gan godi £1,300. Ond cafodd ei ymddeoliad ei suro gan i'w gynilion a'i buddsoddiadau gael eu colli trwy dwyll gan ei gyfreithiwr.

Marwolaeth golygu

Bu farw ym mhreswylfa ei ferch, Pembroke Lodge, East Molesey, Surrey, yn 69 mlwydd oed,[14] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent East Molesey.

Teulu golygu

Priododd, ar 30 Mehefin 1835, ag Anne Combe, merch Henry Combe, llawfeddyg. Bu iddynt un ferch, Maria.

Gweithiau golygu

 
Dyfrlliw Parry, 1835

Roedd Parry yn gyfansoddwr nifer o ganeuon a baledi, a chanodd pob un ohonynt yn ei sioeau ei hun. Argraffwyd y canlynol:

  • Wanted, a Governess (1840)
  • Fair Daphne (1840)
  • Anticipations of Switzerland (1842)
  • The Accomplished Young Lady (1843)
  • My déjeuner à la Fourchette (1844)
  • The Polka explained (1844)
  • Fayre Rosamond (1844)
  • Matrimony (1845)
  • Young England (1845)
  • Miss Harriet and her Governess (1847)
  • The Flying Dutchman (1848)
  • Coralie (1853)
  • Charming Chloe Cole (1854)
  • Oh, send me not away from home (1854)
  • Little Mary of the Dee (1855)
  • In lonely bow'r bemoans the turtle dove (1855)
  • The Tyrolese Fortune-teller (1867)
  • Bridal Bells (1868)
  • Cupid's Flight (1868)
  • Don't be too particular (1868)
  • Take a bumper and try (1874)
  • The Musical Wife (1878)

Deuawdau golygu

  • Fond Memory (1855)
  • A B C (1863)
  • Tell me, gentle stranger (1863)
  • We are two roving minstrels (1864)
  • Flow, gentle Deva (1872)

Caneuon hoen:

  • Come, fairies trip it on the grass (cyn 1851)
  • Oh! it is that her lov'd one's away (1853)

Cyhoeddodd cyfres o dair gân Parables set to Music, ym 1859, yn ogystal â llawer o gerddoriaeth i'r piano, gan gynnwys nifer o polcas.

Dyfarnodd y Melodists' Club gwobrau i Parry am y caneuon: The Inchcape Bell, The Flying Dutchman, A Heart to let, Sweet Mary mine, The Gipsy's Tambourine Song, Nant Gwynnant, You know, Constancy, Fair Daphne, a The Days of Yore. Trefnwyd rhai o'i ganeuon fel pedronglau gan L. Negri ym 1842, a chyfansoddwyd Buffa Quadrilles LG Jullien ym 1844 wedi selio ar ei alawon.

Mae llawer o ddefnyddiau ynglŷn â'i waith fel cerddor ac arlunydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, [8] gan gynnwys dyddiaduron sy'n cynnwys nifer o ddarluniau.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Er bod y rhan fwyaf o ffynonellau cyfoes yn defnyddio ei enw lawn, er mwyn ei wahaniaethu rhag ei dad, roedd yn cael ei adnabod fel John Parry junior tra fo ei dad yn fyw a jest John Parry wedyn
  2. 2.0 2.1 "JOHN ORLANDO PARRY AND FRANZ LISZT IN SCOTLAND". Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 12. 1962. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1277425/1281780/89#?cv=89&m=41&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1277425%2Fmanifest.json&xywh=1375%2C273%2C2634%2C2347.
  3. "MUSIC IN WALES - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1901-05-25. Cyrchwyd 2019-08-29.
  4. Adysgrifau'r Esgob St Anne, Soho, 8 Chwefror 1810. London Metropolitan Archives, Llundain; Cyfeirnodr: DL/T/087/008/001
  5. "Parry, John Orlando (1810–1879), actor and singer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-21425. Cyrchwyd 2019-08-29.
  6. 6.0 6.1 WILLIAMS, ISAAC J. "Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion | 1938 | 1939 | Cylchgronau Cymru LlGC THE DIARIES OF JOHN ORLANDO PARRY.". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2019-08-29.
  7. 7.0 7.1 Profile of Parry
  8. 8.0 8.1 "PARRY, JOHN ('Bardd Alaw'; 1776-1851), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-08-29.
  9. Athenæum, 10 June 1843, p. 556
  10. Sunday Times, 23 May 1852, p. 3
  11. Athenæum, 13 August 1853, p. 970
  12. "Parry, John Orlando | Grove Music". www.oxfordmusiconline.com. doi:10.1093/gmo/9781561592630.001.0001/omo-9781561592630-e-0000020952. Cyrchwyd 2019-08-29.
  13. "THE LATE MR JOHN PARRY - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1879-02-28. Cyrchwyd 2019-08-29.
  14. "JOHN PARRY (BARDD ALAW) -1776-1851, A JOHN ORLANDO PARRY-1810-1879". Y Cerddor (Hughes a'i Fab, Wrecsam; Cylchgronau Cymru LlGC) 2 (13): 5-6. 1 Ionawr 1890. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2619094/2876135/9#?cv=9&m=12&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F2619094%2Fmanifest.json&xywh=-605%2C387%2C3374%2C2201.