John Osmond

awdur o Gymru

Awdur, newyddiadurwr a chynhyrchydd teledu yw John Osmond (ganwyd 1946). Roedd yn gyfarwyddwr y felin drafod Sefydliad Materion Cymreig rhwng 1996 a Mai 2013. Mae wedi cyfrannu tuag at nifer o lyfrau ar wleidyddiaeth a diwylliant Cymru a throsglwyddiad cyfrifoldebau gwleidyddol i’r Senedd yng Nghaerdydd. Yn y gorffennol bu Osmond yn newyddiadurwr a chynhyrchydd rhaglenni teledu.

John Osmond
Ganwyd1946 Edit this on Wikidata
Y Fenni Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywyd Personol ac Addysg golygu

Cafodd Osmond ei eni yn Y Fenni, Sir Fynwy yn 1946. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg King Henry VIII cyn cofrestru i ddarllen gradd BA yn Athroniaeth a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste. Cwbwlhaodd ei gradd yn yr 1960au. Yn 2004 rhoddi MA anrhydeddus i Osmond gan Prifysgol Cymru.

Gyrfa golygu

Dechreuodd gwaith gyda'r Yorkshire Post, wedi iddo raddio, fel gohebydd. Yn yr 1970au cymerodd swydd fel gohebydd materion Cymreig ar gyfer papur newydd y Western Mail. Rhwng 1980 a 1982 bu Osmond yn olygydd y cylchgrawn materion cyfoes Cymreig ARCADE – Wales Fortnightly. Cymerodd rol gyda HTV yn yr 1980au fel cynhyrchydd rhaglenni, a roedd Osmond yn un o'r rhai a gychwynnodd y rhaglen materion cyfoes Wales This Week. Yn cynnwys ei waith gyda HTV, bu Osmond yn gynhyrchydd ar gyfer y rhaglen teledu Sianel 4 The Divided Kingdom. Ysgrifennodd llyfr i cyd fynd gyda'r rhaglen yn 1988. Cymerodd swydd Dirprwy Golygydd y papur newydd Wales on Sunday rhwng 1988 a 1990.

Yn yr 1990au ffurfiodd gwmni teledu Agenda Productions, a gynhyrchodd nifer o raglenni teledu ar gyfer y BBC, HTV, Sianel 4, S4C ac STV.

Cychwynodd ei swydd fel cyfarwyddwr Y Sefydliad Materion Cymreig yn 1996. Yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007, ymgeisiodd Osmond yn etholaeth Preseli Penfro fel cynrychiolydd Plaid Cymru. Ond cynrychiolydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, enillodd y sedd.

Heddiw mae Osmond yn dal nifer o swyddi:

Cyhoeddiadau golygu

  • Crossing the Rubicon: Coalition Politics Welsh Style (IWA, 2007)
  • Myths, Memories and Futures: The National Library and National Museum in the Story of Wales (Editor, IWA, 2007)
  • Time to Deliver: The Third Term and Beyond (golygydd, IWA, 2006)
  • Welsh Politics Come of Ages (golygydd, IWA, 2005)
  • Birth of Welsh Democracy (golygydd, IWA, 2003)
  • Building a Civic Culture: Institutional Change, Policy Development and Political Dynamics in the National Assembly for Wales (co-golygydd, 2002, IWA)
  • The National Assembly Agenda (golygydd, IWA, 1998)
  • Welsh Europeans (Seren, 1995)
  • The Reality of Dyslexia (Cassell, 1993)
  • The Democratic Challenge (Gomer, 1992)
  • The Divided Kingdom (Constable, 1988)
  • The National Question Again - Welsh Political Identity in the 1980s (golygydd, Gomer, 1985)
  • Work in the Future (Thorsons, 1986)
  • Police Conspiracy (Y Lolfa, 1984)
  • Alternatives (Thorsons, 1983)
  • Creative Conflict: The Politics of Welsh Devolution (Routledge, 1978)
  • The Centralist Enemy (Christopher Davies, 1974)

Dolenni allanol golygu