John Owen, Clenennau

llywiawdr ym myddin y Brenhinwyr

Tirfeddiannwr ac arweinydd milwrol dros blaid y Brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref oedd Syr John Owen, Clenennau (16001666).[1] Ganed ef ar ystad y Clenennau, gerllaw Dolbenmaen, yn fab hynaf i John Owen, Bodsilin. Priododd Jonet, merch Griffith Vaughan, Corsygedol, ac etifeddodd ystad Clenennau yn 1626. Bu'n Siryf Sir Gaernarfon yn 1630-1.

John Owen, Clenennau
John Owen, allan o A Tour in Wales gan Thomas Pennant
Ganwyd1600 Edit this on Wikidata
Clenennau Edit this on Wikidata
Bu farw1666 Edit this on Wikidata
Clenennau Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol, tirfeddiannwr Edit this on Wikidata
SwyddUchel Sirif Edit this on Wikidata
TadJohn Owen Edit this on Wikidata
MamElin Morris Edit this on Wikidata
PriodJonet Vaughan Edit this on Wikidata
PlantKatherine Owen, Anne Owen, William Owen Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref yn 1642, rhoddodd y brenin Siarl I gomisiwn iddo i godi tair catrawd o dair sir Gwynedd. Y flwyddyn wedyn, 1643, bu ef a'i gatrodau yn ymladd o amgylch Rhydychen ac wedyn yng ngwarchae Bryste, lle cafodd ef ei glwyfo. Yn 1645 bu'n ymladd yng ngogledd Cymru. Gwnaed ef yn gyfrifol am amddiffyn Conwy, ond nid oedd y berthynas rhyngddo ef a'r Archesgob John Williams yn dda. Yn y diwedd, trodd yr archesgob i gefnogi'r Senedd, a bu raid i Owen ildio Castell Conwy ar 9 Tachwedd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Cartref yn 1648, cododd Sir Feirionnydd o blaid y brenin. Bu'n gwarchae ar dref Caernarfon, ond bu raid iddo encilio tua Bangor a gorchfygwyd ef ym mrwydr y Dalar Hir ger Llandygai ar 5 Mehefin. Cymerwyd Owen yn garcharor ac yn 1649 rhoddwyd ef ar ei brawf am deyrnfradwriaeth yn erbyn y Senedd. Condemniwyd ef i farwolaeth, ond ataliwyd y ddedfryd a gollyngwyd ef yn rhydd.

Pan ddychwelodd y brenin Siarl II i gymeryd meddiant o'i deyrnas, apwyntiwyd Owen yn is-lyngesydd Gogledd Cymru. Bu farw ar ei ystad yng Nghlenennau yn 1666.

Cyfeiriadau golygu

  1. Colin A. Gresham (1973). Eifionydd: a Study in Landownership from the Medieval Period to the Present Day (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 117. ISBN 978-0-7083-0435-8.