John Owen (esgob)

esgob Tyddewi

Athro Cymraeg yng ngholeg Llanbedr Pont Steffan ac Esgob Tyddewi oedd John Owen (24 Awst 18544 Tachwedd 1926).

John Owen
Ganwyd24 Awst 1854 Edit this on Wikidata
Sir Gaernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 1926 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Ysgubor Wen, Sir Gaernarfon (Gwynedd). Roedd ei rieni yn Fethodistiaid Calfinaidd. Yn 1872, enillodd Owen ysgoloriaeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, i astudio'r clasuron a mathemateg. Daeth yn athro yn ysgol ramadeg Botwnnog, a thra yno, datblygodd ddiddordeb yn yr Eglwys Anglicanaidd.

Apwyntiwyd ef yn Athro Cymraeg yn Llanbedr yn 1879, ac ordeiniwyd ef yn ddiacon yr un flwyddyn, yna'n offeiriad yn 1880. Yn 1889, daeth yn ddeon Llanelwy, dan yr Esgob Alfred Edwards. Dychwelodd i Lanbedr fel Prifathro yn 1892, a bu'n brwydro'n hir i geisio cael Llanbedr i fod yn rhan o Brifysgol Cymru. Ni lwyddodd yn hyn, ac ni ddaeth Llanbedr yn rhan o'r Brifysgol hyd 1971.

Yn 1897, apwyntiwyd ef yn Esgob Tyddewi i olynu William Basil Jones. Bu ganddo ran amlwg yn y dadleuon a arweiniodd at ddatgysylltu'r eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a ffurfio yr Eglwys yng Nghymru. Bu farw yn 1926, a chladdwyd ef yn Abergwili.

Llyfryddiaeth golygu