John Paul Getty Jr

Roedd Syr John Paul Getty, KBE ganwyd Eugene Paul Getty; 7 Medi 193217 Ebrill 2003), yn ddyngarwr Americanaidd a mabwysiadodd dinasyddiaeth Prydeinig ac yn gasglwr llyfrau prin. Ef oedd y trydydd o bum mab a anwyd i Jean Paul Getty Sr. (1892-1976), un o'r dynion cyfoethocaf yn y byd ar y pryd, a'i wraig Ann Rork. Roedd cyfoeth teulu Getty yn dod o'r busnes olew a sefydlwyd gan Franklin George Getty. Wrth gofrestru ei enedigaeth rhoddwyd iddo'r enw Eugene Paul Getty, yn ystod ei fywyd defnyddiodd nifer o enwau eraill, gan gynnwys Paul Getty, John Paul Getty, Jean Paul Getty Jr, a John Paul Getty II. Ym 1986, fe wnaed yn farchog er anrhydedd am wasanaethau i achosion cyhoeddus yn amrywio o griced, celf a'r Blaid Geidwadol. Daeth ei farchogaeth anrhydeddus yn un go iawn wedi iddo ddewis dod yn ddinesydd Prydeinig ym 1997. Yn Anglophile o argyhoeddiad[1] daeth yn ddinesydd Prydeinig ym 1997. Ym 1998 defnyddiodd weithred newid enw i ymwrthod a'i enw cyntaf John/Eugene a datgan ei fod yn  dymuno cael ei adnabod fel Syr Paul Getty, KBE.[2]

John Paul Getty Jr
GanwydEugene Paul Getty Edit this on Wikidata
7 Medi 1932 Edit this on Wikidata
Genova Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 2003 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol San Francisco
  • St. Ignatius College Preparatory Edit this on Wikidata
Galwedigaethdyngarwr, llyfrgarwr, person busnes Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Getty Oil
  • Tidewater Petroleum Edit this on Wikidata
TadJ. Paul Getty Edit this on Wikidata
MamAnn Rork Light Edit this on Wikidata
PriodTalitha Getty, Gail Harris, Victoria Holdsworth Edit this on Wikidata
PlantMark Getty, John Paul Getty III, Aileen Getty, Ariadne Getty, Tara Getty Edit this on Wikidata
LlinachGetty family Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd John Paul Jr ar fwrdd llong yn y dyfroedd ger Genoa, yr Eidal, ar 7 Medi, 1932, tra bod ei rhieni Ann a J. Paul Getty Sr yn teithio. Cafodd ei enedigaeth ei gofrestru yn La Spezia gyda'r enw Eugenio Paul Getty, gan fod y notari Eidaleg wedi camglywed yr enw John. Newidiodd ei enw'n gyfreithiol gyda'r awdurdodau Eidalaidd i John Paul ym 1958.[3]

Cafodd ei fagu ar y cychwyn yn Los Angeles, California. Roedd priodas ei rieni dan bwysau oherwydd absenoldebau tramor hir J Paul, a'i bellter emosiynol. Cafodd Ann Getty ysgariad ym 1936 yn Reno, Nevada, gan hawlio creulondeb emosiynol ac esgeulustod. Derbyniodd $1,000 y mis i gynnal eu dau blentyn  Paul Jr. a Gordon.[4]

Ym 1938, priododd Ann ei thrydydd gŵr, Joseff Stanton McInerney, a symudodd y teulu i San Francisco. Mynychodd Paul Jr Coleg Paratoadol St Ignatius  ac wedyn Prifysgol San Francisco, y ddau yn sefydliadau Jeswit. Drwy gydol ei lencyndod  roedd yn dangos diddordeb mawr mewn darllen a cherddoriaeth, ar anogaeth ei fam. Yn 1950 cafodd ei ddrafftio i wasanaethu yn Rhyfel Corea, gan dreulio cyfnod yn gweithio ym mhencadlys yr Americaniaid yn Seoul, De Korea.[5] Ar ôl iddo gael ei ryddhau cyfarfu â Abigail Harris, merch i Farnwr Ffederal amlwg o San Fransisco. Priododd y ddau yn gynnar ym 1956. Cafodd eu plentyn cyntaf, John Paul Getty III ei eni ym mis Tachwedd, 1956. Y flwyddyn ganlynol aeth at ei frawd, Peter Gordon Getty, is-lywydd is-gwmni Getty,  Tidewater Petroleum, i ofyn am swydd. Rhoddodd ei frawd swydd iddo fel gwas pwmpio petrol yn un o orsafoedd petrol Tidewater yn San Francisco.[6] Nid oedd wedi gweld ei dad ers oedd yn 12 oed, ond bu i'w bodlonrwydd i wneud swydd caib a rhaw yn y cwmni creu argraff ffafriol arno. Cafodd gwahoddiad gan ei dad i Baris, lle cafodd cynnig swydd fel llywydd is-gwmni Eidalaidd y busnes Getty Oil Italiana, yn Rhufain.[7]

Priodasau golygu

Roedd ei briodas gyntaf i Abigail "Gail" Harris, cyn  bencampwr polo dŵr. Cawsant ysgariad ym 1964, ar ôl cael pedwar o blant, gan gynnwys John Paul Getty III a Mark Getty.

Roedd ei ail briodas i'r  actores, model ac yn eicon steil o'r Iseldiroedd Talitha Pol (llysferch Poppet merch yr arlunydd Cymreig Augustus John ) ar 10 Rhagfyr 1966. Tynnwyd llun eiconig o'r ddau ar frig to yn Marrakesh, Moroco ym mis Ionawr 1969. Yn y llun, a dynwyd gan Patrick Lichfield, mae Talitha Getty ar ei chwrcwd yn pwyso gyferbyn ar wal gyda'i gŵr yn y cefndir mewn djellaba a sbectol haul. Cafodd y llun ei gyhoeddi yn American Vogue ychydig wedi ei dynnu ac eto yn yr un cylchgrawn ym mis Medi 1999. Mae'r darlun bellach yn rhan o gasgliad yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain. Ddwy flynedd a hanner ar ôl tynnu'r llun, bu Talitha farw o orddos heroin ar 14 Gorffennaf 1971.

Cafodd ei goroesi gan ei mab gyda Getty: Tara Gabriel Gramophone Galaxy Getty (ganwyd Mehefin 1968), ecolegydd cadwraeth yn Affrica.[8] Ym 1994, priododd am y trydydd tro a'r tro olaf i Victoria Holdsworth.

Problemau personol golygu

Ar ôl iddo briodi Talitha ym 1966, bu i'r cwpl ymgolli yng ngwrth diwylliant y 1960au, yn byw rhwng Rhufain a Marrakesh, Moroco. Yn ystod taith i wlad Thai, magodd y cwpl dibyniaeth ddifrifol ar heroin. Roedd Getty Sr, yn ffieiddio defnyddio cyffuriau o unrhyw fath. O glywed bod ei fab yn gaeth, mynodd ei fod yn sobri. Gwrthododd Paul Jr i roi'r gorau i'r cyffuriau ac ymddiswyddodd o Getty Oil Italiana. Bu'r cwpl yn byw ar incwm o ymddiriedolaeth teulu, a oedd yn cyfateb i $100,000 y flwyddyn. Ym 1969, bu ef a Talitha gwahanu gan ei bod hi wedi penderfynu canolbwyntio ar ddod yn sobr. Prynodd Rhif 16 Cheyne Walk yn Chelsea, Llundain, lle bu'r artist Fictoraidd Dante Gabriel Rossetti yn byw yn y 1860au, i Talitha a'r babi cael byw mewn, er ei fod ef yn parhau i fyw yn Rhufain.[9]

Marwolaeth Talitha golygu

Wedi byw ar wahân am nifer o flynyddoedd, gofynnodd Talitha, a oedd yn sobr ar y pryd, am ysgariad gan Paul Jr yn gynnar ym 1971. Roedd Paul yn honni ei fod yn parhau i garu ei wraig. Mynnodd ei bod mynd i Rufain er mwyn rhoi cyfle arall i'r briodas. Wedi i gyfreithiwr ei chynghori byddai'n haws iddi gael ysgariad pe gallai hi ddangos ei bod hi wedi ceisio cysoni â Paul, ymadawodd am Rufain ar 9 Gorffennaf.[10] Ar fore'r 14 Gorffennaf cafodd ei darganfod yn farw yn fflat Getty ar y Piazza d'Aracoeli. Darganfyddiad yr awtopsi oedd bod cymysgedd o alcohol a barbitwradau yn ei system. Bu sïon ei bod hi wedi troi'n ôl at yr heroin wrth dreulio amser gyda Getty, a oedd yn dal yng nghanol ei gaethiwed. Ym mis Rhagfyr 1971, cyhoeddodd yr awdurdodau Eidalaidd byddid cwest i farwolaeth Talitha y mis Mawrth canlynol. Roedd yr ymchwilwyr  am gwrdd â Getty i glywed ei storï parthed amgylchiadau ei marwolaeth. Gan ofni byddai'r ymholiadau yn arwain at gwestiynu ei ddefnydd ef o gyffuriau ac iddo gael ei ddedfrydu am ei ddefnydd, ffodd i Loegr.[11] Anwybyddodd cais gan farnwr yn yr Eidal i ddychwelyd ar gyfer y cwest. Er hynny nis cyhoeddwyd gwarant am ei arestio a ni fu cais i'w estraddodi gan nad oedd yn cael ei amau o achosi marwolaeth Talitha. Ond ni ddychwelodd i'r Eidal am weddill ei oes.[12]

Herwgipio ei fab golygu

Ar ôl marwolaeth ei ail wraig, bu Getty yn byw fel meudwy a bu i'w gaethiwed i heroin gwaethygu, wedi ei iro gan euogrwydd am ei wraig yn farw. Ym 1973, cafodd ei fab hynaf, John Paul Getty III, ei herwgipio yn Rhufain gan syndicâd Maffia y Ndrangheta o Galabria a chafodd ei gaethiwo, wedi ei gadwyno i stanc, mewn ogof ym mynyddoedd Calabria. Nid oedd gan Paul Getty II digon o arian i dalu'r $17 miliwn o bridwerth roedd yr herwgipwyr yn ymofyn. Trodd at ei dad am gymorth heb lwyddiant, gan fod ei dad yn ofni y byddai ei 13 ŵyr arall yn troi'n dargedau i herwgipwyr eraill pe bai o'n talu .[13] Ond wedi i un o glustiau Paul Getty III  cael ei ddanfon i bapur newydd yn Rhufain (wedi cael ei ohirio am dair wythnos oherwydd streic bost), cytunodd Paul Getty'r hynaf i helpu allan gyda'r pridwerth drwy roi $2.2 miliwn mewn taliad uniongyrchol (yr uchafswm gellid ei roi fel rhodd di dreth) ac $1 miliwn o fenthyciad i'w mab ar 4% o log.

Bywyd diweddarach golygu

Ym 1976, bu farw tad Getty. Dros y degawd nesaf bu Getty yn dioddef o iselder ysbryd ac, mewn ymgais olaf i roi diwedd ar ei gaethiwed i gyffuriau, yn mynychu'r London Clinic ym 1984.Tra'n glaf yno derbyniodd ymweliad gan y Prif Weinidog Margaret Thatcher i ddiolch iddo am y rhoddion hael i'r Oriel Genedlaethol. Mewn cyfnod o iselder yn y 1970au calonogwyd Getty gan y cyn chwaraewr criced, a llywydd yr MCC, Gubby Allen, wedi iddo gael ei gyflwyno i'r gêm gan Mick Jagger o'r Rolling Stones.[14]

Bu Paul III yn dioddef yn arw gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) am flynyddoedd wedi ei herwgipiad. Roedd yn hunan meddyginiaethu gydag alcohol a chyffuriau. Ym mis Ebrill 1981, cymerodd gorddos o gyffuriau a adawodd wedi ei barlysu a bron yn gyfan gwbl ddall. Y mis Tachwedd canlynol cafodd ei erlyn, gan ei fab a Gail ei fam am $28,000 y mis i helpu gyda threuliau meddygol y mab.[15] Er gwaethaf y ffaith bod Paul II yn ennill dros $20 miliwn y flwyddyn oddi wrth ymddiriedolaeth ei deulu, gwrthododd talu ceiniog goch tuag at y driniaeth. Cafodd ei ddwrdio gan y barnwr a ganiataodd i'r achos cael ei glywed gan lys Dywedodd y barnwr dylai bod gan Mr Getty gywilydd o fod yn fodlon i wario miloedd ar achosion llys wrth anwybyddu ei ddyletswydd foesol tuag at ei deulu."[16] Gan honni ei fod yn amau difrifoldeb salwch ei fab danfonodd cyfreithiwr i Los Angeles i gadarnhau maint dioddefaint ei fab Wedi cael adroddiad gan ei gyfreithiwr cytunodd i ysgwyddo baich y costau gofal.[17]

Wormsley Park golygu

Yn ystod ei gyfnod naw mis fel claf yn y London Clinic penderfynodd Getty i brynu tŷ bonedd gwledig adfeiliedig i'r gorllewin o Lundain, Wormsley Park, ar gyngor ei ffrind agos Christopher Gibbs.[18] Ar ôl ymadael a'r clinig ym mis Mawrth 1986, ymroddodd i adfer y plasty o'r 18 ganrif a'i 3,000 erw o barcdir. Roedd hyn yn cynnwys creu parc ceirw, ail blannu 1,500 o erwau o goedwig ffawydd, ac adfer llyn 4 erw.[19] Ynghyd â'r gwaith o adfer y plasty Siorsaidd, dan oruchwyliaeth Gibbs, ychwanegodd Getty estyniad castellaidd wedi ei wneud o gallestr leol fel lle i gadw ei lyfrgell helaeth. Adeiladodd pwll nofio mewnol a replica o'r maes criced The Oval. Adeiladodd bwthyn un llawr hygyrch fel cartref ar gyfer ei fab anabl. Roedd y bwthyn wrth ymyl y pwll nofio, er mwyn caniatau i Paul III gwneud ei ymarferion therapi dŵr. Costiodd y prosiect tua £60 miliwn dros gyfnod o 6 mlynedd.

Bu'n gwadd ei blant a'i gyn gwraig i aros am gyfnodau yn Wormsley gan raddol ail adeiladu ei berthynas a nhw.[20]

I ddathlu gorffen y gwaith o adeiladu ei faes criced cynhaliodd gêm ym mis Medi 1992 lle fu Imran Khan a Bob Wyatt, yn gapteiniaid y ddau dîm. Gwahoddodd y Prif Weinidog John Major ac Elizabeth y Fam Frenhines i wylio'r gêm fel ei westeion anrhydeddus.[21]

Dyngarwch golygu

Rhoddodd Getty dros £140 miliwn i wahanol achosion artistig a diwylliannol. Derbyniodd yr Oriel Genedlaethol £50m oddi wrtho. Bu hefyd yn rhoi cefnogaeth sylweddol i'r Amgueddfa Brydeinig, y Sefydliad Ffilm Prydeinig, Eglwys Gadeiriol Henffordd, Eglwys Gadeiriol Sant Paul, yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, ac Eglwys Gatholig St. James, Spanish Place, Llundain.[22] Rhoddodd cyfraniad i alluogi Oriel Genedlaethol yr Alban i brynnu darlun Canova Y Tri Gras [23] a'r Oriel Genedlaethol i brynnu Madona y Cigliw gan Raphael, gan rwystro ymdrechion Amgueddfa J. Paul Getty, amgueddfa ei dad, rhag caffael y peintiad.

Er ei fod yn ffrindiau gyda'r prif weinidogion Margaret Thatcher a John Major ac wedi rhoi o leiaf £5 miliwn i goffrau'r Blaid Geidwadol, bu hefyd yn cyfrannu i'r ymgyrchoedd i gasglu arian am fwyd i deuluoedd glowyr oedd ar streic ym 1984-85.

Adeiladodd llyfrgell arbennig yn Wormsley fel cartref i'w casglu gwerthfawr o lyfrau. Roedd ei gasgliad yn cynnwys trysorau megis argraffiad cyntaf o waith Chaucer, a chopi o un o lyfrau Edmund Spenser wedi ei anodi gan Ben Jonson a ffolios o waith Shakespeare. Roedd yn aelod nodedig o'r Roxburghe Club[24], cymdeithas ecscliwsif i lyfrgarwyr. Gwasanaethodd fel Llywydd Clwb Criced Swydd Surrey am flwyddyn, a rhoddodd arian i faes criced Lords i adeiladu eisteddle newydd. Bu'n cyfuno ei gariad at griced a'i gariad at lyfrau pan daeth yn berchennog cwmni cyhoeddi Wisden, yr almanac criced blynyddol. Cynysgaeddodd ₤20 miliwn i sefydlu ymddiriedolaeth elusennol yn ei enw i gefnogi'r celfyddydau, cadwraeth, a lles cymdeithasol.[25]

Fe'i hurddwyd yn Farchog o urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (KBE) ym 1987, ond fel dinesydd gwlad tu allan i'r Gymanwlad ni allai defnyddio'r teitl "Syr". Ym mis Rhagfyr 1997 fe llwyddodd i ddod yn ddinesydd Prydeinig ac i ymwrthod a'i ddinasyddiaeth Americanaidd a thrwy hynny cael yr hawl i gael ei alw'n "Syr".

Amcangyfrifir bod ei ffortiwn bersonol yn werth tua £1.6 biliwn.

Marwolaeth golygu

Bu Getty marw, yn 70 mlwydd oed, ar 17 Ebrill 2003, wedi cael ei dderbyn am driniaeth i'r ysbyty yn Llundain am haint ar y frest.[26]

Portreadau yn y cyfryngau golygu

Mae Syr Paul Getty yn cael ei bortreadu gan Andrew Buchan yn y ffilm All the Money in the World, wedi ei gyfarwyddo gan Ridley Scott a gan Michael Esper yn y gyfres deledu 2018 Trust, wedi ei gyfarwyddo gan Danny Boyle, y ddau ohonynt yn dramateiddio herwgipiiad John Paul Getty III.[27]

Cyfeiriadau golygu

  1. "BBC profile: Sir John Paul Getty II". BBC News. Cyrchwyd 1 February 2013.
  2. London Gazette rhif 55124 (12 Mai 1998); adalwyd 28 Awst 2028
  3. John Pearson (1995). Painfully Rich. tt. 107–8.
  4. John Pearson (1995). Painfully Rich. t. 71.
  5. John Pearson (1995). Painfully Rich. t. 99.
  6. John Pearson (1995). Painfully Rich. t. 104.
  7. John Pearson (1995). Painfully Rich. t. 106.
  8. NNDb profile for J. Paul Getty Jr. Retrieved 21 November 2007. At some point, Tara dropped his third and fourth names. In 1999, an Irish newspaper revealed that he and six other family members had been granted Irish passports and citizenship, and he was now known as Tara Gabriel Getty.
  9. John Pearson (1995). Painfully Rich. tt. 147–8.
  10. John Pearson (1995). Painfully Rich. tt. 150–51.
  11. John Pearson (1995). Painfully Rich. t. 155.
  12. John Pearson (1995). Painfully Rich. tt. 155–6.
  13. Miller, Julie (December 22, 2017). "The Enigma of J. Paul Getty, the One-Time Richest Man in the World". Vanity Fair. New York City: Condé Nast. Cyrchwyd December 28, 2017.
  14. Wisden Cricketers' Almanack 2004; E W Swanton (1996) Last Over.
  15. Adelson, Suzanne; Wilhelm, Maria (December 14, 1981). "Paralyzed and Blind from a Drug Overdose, Paul III is the Star-Crossed Getty". People. New York City: Meredith Corporation. Cyrchwyd April 1, 2018.
  16. Pierson, John (1995). Painfully Rich. New York City: Harper Collins. t. 244. ISBN 978-0312135799.
  17. Pierson, John (1995). Painfully Rich. New York City: Harper Collins. t. 245. ISBN 978-0312135799.
  18. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 272.
  19. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 282.
  20. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 290.
  21. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. tt. 320–321.
  22. Charlotte Edwardes (16 November 2003). "Getty leaves bulk of fortune to son Mark". Telegraph.co.uk. Cyrchwyd 4 October 2015.
  23. "Getty son pledges money to keep statue in Britain", New York Times, 13 August 1994; retrieved 31 August 2008.
  24. "The Roxburgh Club". Cyrchwyd 27 Awst 2018.
  25. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 271.
  26. "Billionaire Getty dies". BBC News. 17 April 2003. Cyrchwyd 1 July 2011.
  27. Petski, Denise (June 21, 2017). "'Trust': Michael Esper To Co-Star In FX Getty Drama Series; Veronica Echegui To Recur". Deadline Hollywood. Los Angeles, California: Penske Media Corporation. Cyrchwyd June 22, 2017.