John Pierce Jones

actor a aned yn 1946

Actor, ysgrifennwr a chynhyrchydd ydy John Pierce Jones (ganwyd 10 Mai 1946),[1][2] sy'n enwog am ei ran fel Arthur Picton gyda'i hoff reg, Asiffeta, yn y rhaglen deledu C'mon Midffild! ar S4C.

John Pierce Jones
Ganwyd10 Mai 1946 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd a magwyd John Pierce Jones yn Niwbwrch, Sir Fôn. Pan oedd yn 12 oed ail-briododd ei fam a symudodd y teulu i Stevenage ar gyffiniau Llundain. Daeth yn ôl i Gymru wedi gadael yr ysgol ac ymunodd â'r heddlu gan ddilyn yn ôl troed ewythr iddo. Cychwynodd ei yrfa gyda'r heddlu yn Nolgellau ond roedd yn anhapus yn y swydd a roedd a'i fryd ar fynd yn actor. Aeth i Goleg Harlech ac yna i Brifysgol Cymru Bangor. Cafodd ambell gyfle i gael profiad o fyd y theatr, yn Theatr y Gegin, Cricieth.[3]

Gyrfa golygu

Cyd-ysgrifennodd y gyfres gomedi teledu Teulu'r Mans gyda Wiliam Owen Roberts y gyfres Watcyn a Sgrwmp gyda Wynford Ellis Owen yn 1993-1994, a'r gyfres Yr Aelod ar gyfer BBC Radio Cymru gydag ef yn 1994, ac ail gyfres yn 1997. Cymerodd ran yn y rhaglen Y Briodas Fawr ar S4C yn 2006, lle roedd rhaid iddo ddylunio ffrog.[4]

Roedd hefyd yn un o'r Jones's a dorodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd ran.[5]

Bywyd personol golygu

Mae'n briod i Inge Hansen, Americanes a anwyd yn nghanolfan y Llynges Americanaidd yn Siapan. Mae Igne eisoes wedi dysgu Cymraeg.[2][6] Mabwysiadodd y cwpl fab o Haiti yn 2004.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Manylion cyfarwyddwr 'Teledu Cymunedol Mon' o Dy'r Cwmniau.
  2. 2.0 2.1 2.2 'Yr anrheg orau erioed' BBC 24 Rhagfyr 2004
  3.  Hunangofiant - Adolygiad Gwales. Adalwyd ar 26 Ionawr 2016.
  4. Let celebs organise our wedding ..., Peter Morrell Western Mail 18 Tachwedd 2006
  5. 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
  6. "Cyfweliad gyda Igne Pierce Jones, Haf 2000". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2007-11-07.