Gwleidydd Seisnig Ceidwadol yw Syr John Alan Redwood (ganwyd 15 Mehefin 1951). Mae'n cynrychioli etholaeth Wokingham dros y Blaid Geidwadol ers 1987. Daliodd swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ddwy flynedd o 1993 tan 1995, pan ddaeth yn enwog am fud-ganu Hen Wlad fy Nhadau yng Nghynhadledd y Torïaid Cymreig.

Y Gwir Anrhydeddus Syr John Redwood AS
John Redwood


Cyfnod yn y swydd
27 Mai 1993 – 26 Mehefin 1995
Rhagflaenydd David Hunt
Olynydd David Hunt

Geni 15 Mehefin 1951
Dover, Caint
Etholaeth Wokingham
Plaid wleidyddol Ceidwadol

Roedd John Redwood yn ymfalchio ei fod wedi tanwario ar y gyllideb Gymreig, gan anfon dros gan miliwn o bunnoedd yn ôl i'r Trysorlys yn Llundain. Ef fu'n gyfrifol am Ddeddf Llywodraeth Leol 1994 pan chwalwyd yr wyth cyngor sir a'r 37 cyngor dosbarth yn groes i farn bron pob Aelod Seneddol Cymru. Roedd y 22 cyngor unedol newydd yn rhy fach i fod yn strategol ac yn rhy fawr i fod yn lleol.Trwy lwytho'r pwyllgor gydag Aelodau Seneddol Seisnig yn unig y llwyddwyd i gael y Ddeddf drwy'r senedd. Gwnaethpwyd yr un peth gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.[1]

Yn 2007, arddangosodd y BBC yr hen luniau o John Redwood yn canu ym 1993, ond wedi hynny cyfaddefant bod y lluniau'n amherthnasol i'r rhaglen. Ysgrifennodd Redwood mewn llythyr at The Daily Telegraph: "I am the only politician who has regularly been given eternal youth by the BBC in this way."[2]

Cafodd Redwood ei urddo'n marchog yng ngwobrau anrhydeddau’r flwyddyn newydd 2019.[3] Dywedwyd bod Theresa May wedi rhoi’r farchog i Redwood er mwyn cael cefnogaeth i’w bargen Brexit[4]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William van Straubenzee
Aelod Seneddol dros Wokingham
1987 – presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
David Hunt
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
27 Mai 199326 Mehefin 1995
Olynydd:
David Hunt

Ffynonellau golygu

  1. Maen i'r Wal. Dafydd Wigley. Gwasg Gwynedd. 2001
  2. The same old song from the BBC Tudalen llythyrau The Daily Telegraph, 19 Awst 2007
  3. Golwg360 Geraint Thomas ymysg y Cymry ar restr anrhydeddau’r Frenhines adalwyd 29 Rhagfyr 2018
  4. Heather Stewart (28 Rhagfyr 2018). "Theresa May accused of Brexit deal desperation over John Redwood honour". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Tachwedd 2020.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.