John Rhys-Davies

Actor o Gymro (ganwyd 1944)

Actor ffilm o Gymro yw John Rhys-Davies (ganed 5 Mai 1944). Mae'n adnabyddus am chwarae'r cymeriad Gimli yng nghyfres ffilmiau The Lord of the Rings a'r cloddiwr carismataidd Sallah yn ffilmiau Indiana Jones.

John Rhys-Davies
Ganwyd5 Mai 1944 Edit this on Wikidata
Rhydaman Edit this on Wikidata
Man preswylWaikato Region, Ynys Manaw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar golygu

Cafodd ei eni yng Nghaersallog ac fe'i magwyd yno ynghyd â chyfnodau yn Tanganica a Rhydaman.[1] Roedd ei fam, Mary Margaretta Phyllis Jones, yn nyrs, a'i dad, Rhys Davies, yn beiriannydd mecanyddol [2] ac yn Swyddog Trefedigaethol.[3] Yn y 1950au cynnar bu'r teulu yn byw am sawl blwyddyn yn Kongwa, Dar es Salaam, Moshi a Mwanza Tansanïa, tra roedd ei dad yn gwasanaethu yno fel Heddwas trefedigaethol. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Truro a Phrifysgol Dwyrain Anglia lle roedd yn un o'r 87 myfyriwr cynta i'w derbyn, a lle ffurfiodd y Gymdeithas Ddrama. Ar ôl dysgu yn Ysgol Uwchradd Watton yn Norfolk enillodd le yn Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig.

Ffilmiau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Kirstie McCrum. Hollywood actor John Rhys-Davies: 'I'm very proud of being a Welshman' , Wales Online, 23 Tachwedd 2013. Cyrchwyd ar 12 Awst 2015.
  2.  John Rhys-Davies Biography (1944–). filmreference.com. Adalwyd ar 27 May 2009.
  3.  John Rhys-Davis. nTZ. Adalwyd ar 27 May 2009.

Nodiadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.