Ysgolhaig Celtaidd o'r Unol Daleithiau yw John T. Koch.

John T. Koch
Ganwyd20 g Edit this on Wikidata
Alma mater
GalwedigaethCeltegwr, ieithydd, hanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Graddiodd o Brifysgol Harvard, gan gymeryd doethuriaeth mewn Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd yn 1985. Bu hefyd yn astudio yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a Phrifysgol Aberystwyth.

Mae wedi cyhoeddi ar nifer o bynciau yn ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymreig a Gwyddeleg. Mae'n adnabyddus yn arbennig am ei lyfr ar Y Gododdin, a gyhoeddwyd yn 1997, ac am ei ddamcaniaeth fod cerrig beddau Tartessos yn cynnwys ysgrif Geltaidd o tua'r 6g CC.

Cyhoeddiadau golygu

  • The Celtic Heroic Age (1994) gyda John Carey
  • The Gododdin of Aneirin (1997)
  • Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (5 cyfrol., 2006), Golygydd
  • An Atlas for Celtic Studies: Archaeology and Names in Ancient Europe and Early Medieval Ireland, Britain, and Brittany (2007)