Proffwyd chwedlonol oedd yn byw yn nheyrnas ogleddol Israel tua'r 8g CC oedd Jona. Ef yw ffigwr canolog Llyfr Jona yn y Beibl ac hyd yma ni chafwyd tystiolaeth iddo fodoli.

Jona
Enghraifft o'r canlynolbod dynol yn y Beibl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Jona a'r Morfil (1621) gan Pieter Lastman

Yn y chwedl hon, mae Jona'n cael ei alw gan Dduw i deithio i Ninefeh i rybuddio'i phobl a'u hannog i edifarhau am eu pechodau neu wynebu dicter Duw. Yn lle gwneud hynny, mae Jona'n mynd ar long i Tarshish. Yng nghanol storm, mae'n gorchymyn criw'r llong i'w daflu dros ei hymyl, ac mae'n cael ei lyncu gan bysgodyn enfawr. Dridiau'n ddiweddarach, ar ôl iddo gytuno i fynd i Ninefe, mae'r pysgodyn yn ei chwydu ar y lan. Mae Jona'n llwyddo i argyhoeddi dinas Ninefeh gyfan i edifarhau, ond yn disgwyl y tu allan i'r ddinas i ddisgwyl iddi gael ei dinistrio. Mae Duw yn cysgodi Jona rhag yr haul gyda phlanhigyn, ond wedyn yn anfon mwydyn sy'n achosi iddo wywo. Pan mae Jona yn cwyno am y gwres, mae Duw yn ei geryddu.

Mewn Iddewiaeth, mae stori Jona yn cynrychioli dysgeidiaeth teshuva, sef y gallu i edifarhau a chael maddeuant gan Dduw. Yn y Testament Newydd, mae Iesu yn dweud ei fod yn "̜̙fwy na Jona" ac yn addo "arwydd Jona", sef ei atgyfodiad. Mae denhonglwyr Cristnogol cynnar yn gweld Jona fel rhaglun o Iesu. Yn ddiweddarach, yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, daeth Jona i gael ei weld fel archdeip i'r "Iddew eiddigeddus". Mae Jona yn cael ei ystyried yn broffwyd yn Islam ac mae naratif beiblaidd Jona yn cael ei ailadrodd, gyda rhai gwahaniaethau amlwg, yn y Coran. Mae prif ffrwd ysgolheigion y Beibl yn ystyried Llyfr Jona fel ffuglen[1] ac yn aml fel gwaith sy'n ddychanol,[2][3] ond gall fod cymeriad Jona wedi'i seilio ar broffwyd hanesyddol oedd a'r un enw sy'n cael ei grybwyll yn 2 Brenhinoedd 14ː25.

Er bod y gair "morfil" yn aml yn cael ei ddefnyddio wrth adrodd hanes Jona, mae'r testun Hebraeg yn defnyddio dag gadol, sy'n golygu "pysgodyn enfawr". Yn yr 17g a dechrau'r 18g, roedd y rhywogaeth o bysgodyn lyncodd Jona yn destun trafod gan rai a oedd yn dehongli'r stori fel digwyddiad hanesyddol. Mae rhai ysgolheigion hanesion gwerin modern wedi gweld tebygrwydd rhwng Jona a ffigyrau chwedlonol eraill, fel Gilgamesh a'r arwr Groegaidd Jason.

Cyfeiriadau golygu

  1. Kripke 1980, t. 67.
  2. Band 2003, tt. 105–107.
  3. Ben Zvi 2003, tt. 18–19.