Joost van den Vondel

Bardd a dramodydd Iseldiraidd yn ystod Oes Aur yr Iseldiroedd oedd Joost van den Vondel (yōst vän dĕn vôn´dəl) (17 Tachwedd 15875 Chwefror 1679).

Joost van den Vondel
Portread olew o Joost van Vondel gan Philip de Koninck (1665)
Ganwyd17 Tachwedd 1587 Edit this on Wikidata
Cwlen Edit this on Wikidata
Bu farw5 Chwefror 1679 Edit this on Wikidata
Amsterdam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, dramodydd, cyfieithydd, ysgrifennwr, rhetorician Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yng Nghwlen wedi i'w rieni ffoi yno o Antwerp. Symudodd y teulu i Amsterdam, ac yno dysgodd Joost bach Ffrangeg a Lladin ar liwt ei hun. Mennoniaid oedd ei rieni, a chafodd ei fagu mewn cymdeithas Galfinaidd. Ymddiddorodd ym mytholeg Gristnogol, ac roedd ei ddramâu cynnar yn aml yn uno themâu clasurol y Dadeni â'r ffydd Gristnogol. Defnyddiodd hanes ymadawiad yr Iddewon o'r Aifft yn ei ddrama Het Pascha (1612; "Y Pasg") fel alegori am ffoad y Calfiniaid o'r Iseldiroedd Sbaenaidd.[1]

Ymatebodd i ddienyddiad Johan van Oldenbarnevelt ym 1619 gan ysgrifennu tomen o ddychangerddi i watwar y llywodraeth a'r eglwys. Cafodd ei roi ar brawf o ganlyniad i'w ddrama Palamedes (1625). Tua'r un adeg, cyfieithodd y ddrama Sophompaneas i'r Iseldireg, a chafodd ei ddylanwadu gan ei hawdur, Hugo Grotius, i efelychu drama'r hen Roeg yn ogystal â'r ddrama Ladin. Hwn oedd cyfnod trawsfudol Vondel. Yn Gijsbrecht van Aemstel (1637), creodd arwr i'r Weriniaeth Iseldiraidd ar sail Aeneas. Trasiedi yn arddull yr Hen Destament ond hefyd ar fodel y ddrama Roeg yw Gebroeders (1639).[1]

Cristion rhyddfrydol oedd Vondel, a ddaeth yn fwyfwy anfodlon â'r hinsawdd grefyddol yn ei wlad. Ymunodd â mudiad yr Haerwyr, oedd yn proffesu gwrthwynebiad Arminiaidd yn erbyn Calfiniaeth ddogmataidd. Tua 1641, wrth i derfyn y Rhyfel Pedwar Ugain Mlynedd ddod yn agos, trodd Vondel yn Babydd. Pan yn llenor aeddfed, ysgrifennodd y triawd Lucifer (1654), Adam in ballingschap (1664; "Adda alltud"), a Noah (1667). Cerdd epig sy'n adrodd stori'r frwydr rhwng yr angylion a Duw yw Lucifer. Hwn yw campwaith Vondel, ac mae'n bosib y dylanwadodd John Milton i ysgrifennu Coll Gwynfa.[2]

Cyfieithoedd nifer o weithiau i'r Iseldireg, o Ffrangeg, Lladin, Eidaleg a Groeg, gan gynnwys Soffocles, Ewripides, Fferyllt, Ofydd, Horas, Seneca, a Taso. Ymhlith ei gyfansoddiadau gwreiddiol mae telynegion, awdlau, sonedau, arwrgerddi, cerddi hirion crefyddol, traethodau, a dramâu trasig. Noder ei gerddi gan iaith soniarus a pherseiniol, sy'n manteisio ar seingoll llafariaid a rhythmau tebyg i farddoniaeth Ffrangeg. Arddull "baróc uchel" sydd gan ei ddramâu: cyfuniad o ddramâu miragl yr Oesoedd Canol a mydryddiaeth glasurol sy'n cyfleu syniadaeth a dameg aruchel.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Joost van den Vondel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Hydref 2016.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Vondel, Joost van den" yn Columbia Encyclopedia (Gwasg Prifysgol Columbia). Adalwyd ar 31 Hydref 2016 ar Encyclopedia.com.

Dolenni allanol golygu