Jordi Sànchez i Picanyol

Mae Jordi Sànchez i Picanyol, (ganwyd 1 Hydref,1964) yn academydd a gwleidydd o Gatalwnia

Jordi Sànchez i Picanyol
GanwydJordi Sànchez Picanyol Edit this on Wikidata
1 Hydref 1964 Edit this on Wikidata
Barcelona Edit this on Wikidata
Man preswylBarcelona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
AddysgLicentiate Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona
  • Prifysgol Barcelona Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweithredydd gwleidyddol, gwyddonydd gwleidyddol, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Assemblea Nacional Catalana, Aelod o Senedd Catalwnia, cyfarwyddwr, cadeirydd, Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Fundació Jaume Bofill
  • Prifysgol Agored Catalwnia
  • Prifysgol Barcelona
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona
  • Síndic de Greuges de Catalunya Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr, Junts per Catalunya Edit this on Wikidata
PartnerSusanna Barreda Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr 31 Rhagfyr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://jordisanchezpicanyol.cat/ Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Yn enedigol o Barcelona, graddiodd gyda gradd mewn Gwyddor Gwleidyddiaeth o brifysgol y ddinas ym 1991.

Gyrfa golygu

Bu Sànchez yn Athro ym Mhrifysgol Barcelona ac mae o wedi dysgu mewn prifysgolion eraill. Rhwng 1996 a 2004 bu'n gyfarwyddwr Cwmni Radio a Theledu Catalwnia. Ym 1996 cafodd ei apwyntio yn ddirprwy gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Jaume Bonfill, melin drafod (think tank) sy'n ymchwilio i achosion o annhegwch cymdeithasol a'r moddion i'w trechu, yn 2001 daeth yn gyfarwyddwr yr ymddiriedolaeth gan gadw'r swydd hyd 2010 pan gafodd ei benodi'n ddirprwy ombwdsman Catalwnia[1]. Bu'n gyfrifol am ysgrifennu papurau cefndir i bolisïau cymdeithasol Catalwnia megis y Cytundeb Cenedlaethol ar Addysg (2006) a'r Cytundeb Cenedlaethol ar Fewnfudo (2008).

Ymgyrchydd gwleidyddol golygu

O 1983 hyd ddiddymu'r mudiad ym 1993 bu'n un o arweinyddion Crida a la Solidaritat ên Defensa de la Llengua, la Cultura i la Nació Catalanes (Galwad am Undod i Amddiffyn Iaith, Diwylliant a Chenedl Catalwnia), mudiad eithaf tebyg i Gymdeithas yr Iaith, oedd yn defnyddio anufudd-dod sifil i gefnogi iaith, diwylliant a chenedlgarwch Catalaneg.

Ar 16 Mai 2015 etholwyd Sànchez yn llywydd Assemblea Nacional Catalana (Cyngres Genedlaethol Catalwnia)[2] . Fel llywydd y Gyngres bu'n dadlau achos cenedlaetholdeb fel modd i greu cymdeithas decach a mwy cymdeithasol na'r hyn oedd ar gynnig gan lywodraeth asgell dde Sbaen. Bu'n rhan o'r ymgyrch Junts pel Sí (Unedig dros Ie) i gael ymgeiswyr o wahanol bleidiau cenedlaetholgar i gyd sefyll yn etholiadau Llywodraeth Catalwnia, 2015.

Carcharu golygu

Ar 4 Hydref, 2017, cyhuddwyd Sànchez a Jordi Cuixart i Navarro (llywydd Òmnium Cultural) am eu rhan yn trefnu refferendwm Annibyniaeth Catalwnia, 1 Hydref 2017 ae gyhuddiad o greu cynnwrf yn erbyn y wladwriaeth. Ar 16 Hydref, 2017 cafodd y ddau eu carcharu am gyfnod ataliol er mwyn i'r awdurdodau allu chwilio am brawf o'u troseddau honedig. Arweiniodd eu carchariad at brotestiadau enfawr yng Nghatalwnia[3] a chafodd eu carchariad ei feirniadu gan Amnest Rhyngwladol am fod yn rhy llawdrwm[4].

Ar 1 Rhagfyr 2018 cyhoeddodd Sànchez a Jordi Turull eu bod am ddechrau streic newyn mewn protest at y bloc ar gyfiawnder Ewropeaidd a osodwyd arnynt gan Lys Cyfansoddiadol Sbaen.[5]

Cyfeiriadau golygu