Gwleidydd o Gatalwnia yw Jordi Turull (ganed 6 Medi 1966) sy'n aelod o Blaid Ewropeaidd Democrataidd Catalwnia (Catalaneg: Partit Demòcrata Europeu Català neu PDeCAT). Ers Mawrth 2018 mae wedi'i garcharu heb achos llys yn ei erbyn am fod yn Ddirprwy Llywodraeth Catalwnia.[1] Ers 1 Rhagfyr 2018 bu ar ympryd mewn protest yn erbyn ei gaethiwo ef ac eraill gan Lywodraeth ac uchel lys Sbaen ar gyhuddiad o gamdrin arian ac annog gwrthryfel.[2] Mae hefyd yn athro Prifysgol Barcelona.

Jordi Turull
Ganwyd6 Medi 1966 Edit this on Wikidata
Parets del Vallès Edit this on Wikidata
Man preswylParets del Vallès Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Alma mater
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, academydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd Catalwnia, Cynghorydd Sir, cadeirydd, arweinydd grwp seneddol, Gweinidog y Llywydd a Senedd Catalwnia, Llefarydd Llywodraeth y Generalitat Catalwnia, Dirprwy Cyngor Rhabarthol Barcelona, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, cyfarwyddwr, Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen, Dirprwy Cyngor Rhabarthol Barcelona, ysgrifennydd cyffredinol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolConvergència Democràtica de Catalunya, Plaid Ddemocrataidd Ewropeaidd Catalwnia, Junts per Catalunya Edit this on Wikidata
PriodBlanca Bragulat Rovira Edit this on Wikidata

Y dyddiau cynnar golygu

Fe'i ganed yn Parets del Vallès, Catalwnia. Astudiodd y gyfraith yn y brifysgol ac ymunodd â Ieuenctid Cedeldaetholgar Catalwnia yn 1983 ac yna'r Cydgyfeiriad Democrataidd Catalwnia (Convergència Democràtica de Catalunya, CDC) yn 1987. Rhwng 1987–2003 bu'n gynhorydd tref Parets del Vallès. Bu hefyd yn ymgeisydd o'r Convergència i Unió rhwng 1991 a 1999.

Fe'i etholwyd yn Ddirprwy Llywodraeth Catalwnia yn 2004 ac yn lladmerydd y grwp Cydgyfeiriad ac Undeb (Convergència i Uni) yn y Llywodraeth; ym Mawrth 2013 fe'i etholwyd yn Llywydd y grwp. Ef hefyd oedd Cadeirydd Grwp Cyllid Llywodraeth Catalwnia. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017 fe'i etholwyd yn Llywydd Clymblaid y Junts pel Sí, ond ar 14 Gorffennaf 2017 cafodd ei ethol yn Llefarydd yr Arlywydd a'r Llywodraeth gan Carles Puigdemont.

Yn y ddalfa golygu

Ar 1 Hydref 2017 cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia, er i Lywodraeth Sbaen ddatgan y byddai hynny'n groes i gyfansoddiad Sbaen. Roedd 92% o'r bleidlais dros annibynniaeth. Cafwyd Datganiad o Annibynniaeth gan Lywodraeth Catalwnia ar 27 Hydref 2017 a chymerodd Llywodraeth Sbaen drosodd, gan weinyddu'n uniongyrchol a chael gwared o Lywodraeth Catalwnia, gan gynnwys Jordi Turull.

Ar 2 Tachwedd 2017 danfonwyd ef, Oriol Junqueras, Josep Rull, Meritxell Borràs, Carles Mundó, Raül Romeva, Dolors Bassa, Joaquim Forn a Santi Vila i garchar gan yr Audiencia Nacional, heb wrandawiad llys. Ar 4 Rhagfyr fe'i rhyddhawyd ar fechnïaeth.[3][4] Ond y diwrnod canlynol, danfonwyd ef, Carme Forcadell, Raül Romeva, Josep Rull a Dolors Bassa, yn ôl i'r carchar gan Uchel Lys Sbaen.[5]

Cychwynodd ympryd ar 1 Rhagfyr 2018, ynghyd â Jordi Sànchez i Picanyol, i "godi ymwybyddiaeth" o'u triniaeth anghyfiawn.[6][7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Sam (2018-03-23). "Spanish court remands Catalan presidential candidate in custody". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-25.
  2. Llarena cierra el sumario del ‘procés’ y suspende como diputados a Puigdemont y Junqueras Cyhoeddwyd yn El País, 10 Gorffennaf 2018, retrieved 10 Gorffennaf 2018
  3. "La jutge envia a presó mig Govern i veu el Procés com un pla delictiu". Ara.cat (yn Catalaneg). Cyrchwyd 2018-03-25.
  4. "Rull, Turull, Romeva i Mundó surten de la presó d'Estremera". ElNacional.cat. Cyrchwyd 2018-03-25.
  5. "El juez Llarena manda a prisión a Turull, Forcadell, Bassa, Rull y Romeva por riesgo de fuga". ELMUNDO (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2018-03-25.
  6. "Jailed Catalan separatist leaders start hunger strike". Reuters. 1 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2018.
  7. "Two jailed Catalan separatist leaders begin hunger strike". Al-Jazeera. 1 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2018.