Nofelydd a beirniad llenyddol Sbaeneg a diplomydd Tsileaidd oedd Jorge Edwards (29 Mehefin 193117 Mawrth 2023) sy'n nodedig am ei hunangofiant o'i gyfnod yn llysgennad Tsile i Giwba, Persona non grata (1973).[1]

Jorge Edwards
GanwydJorge Edwards Valdés Edit this on Wikidata
29 Mehefin 1931 Edit this on Wikidata
Santiago de Chile Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mawrth 2023 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTsile, Sbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, diplomydd, beirniad llenyddol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddambassador of Chile to France Edit this on Wikidata
Arddullnofel, stori fer, traethawd, cronicl, cofiant Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolEvolución política Edit this on Wikidata
TadSergio Edwards Irarrázabal Edit this on Wikidata
MamCarmen Valdés Lira Edit this on Wikidata
PriodPilar de Castro Vergara Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Edwards Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Miguel de Cervantes, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X, Officier des Arts et des Lettres‎, Cymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Santiago de Chile i deulu o dras Gymreig. Derbyniodd radd yn y gyfraith o Brifysgol Tsile yn 1958 ac ymunodd â'r gwasanaeth diplomyddol. Fe'i anfonwyd gan y llywodraeth i astudio gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Princeton yn 1959. Yn ystod ei yrfa lenyddol gynnar cyhoeddodd sawl casgliad o ffuglen fer, gan gynnwys El patio (1952), Gente de la ciudad (1961), Las máscaras (1967), a Temas y variaciones (1969), sy'n ymwneud â chymeriadau dosbarth-canol sy'n gweithio yn y fiwrocratiaeth. Mae ei nofelau hefyd yn ymdrin â bywyd y dosbarth canol a themâu gwleidyddol, yn eu plith El peso de la noche (1965), Los convidados de piedra (1978), El museo de cera (1981), La mujer imaginaria (1985), El anfitrión (1987), ac El origen del mundo (1996).

Yn ei lyfr Persona non grata, sy'n ymwneud â'i brofiadau yn llysgennad i Giwba yn nechrau'r 1970au, mynegodd Edwards feirniadaeth o lywodraeth sosialaidd Fidel Castro. Derbyniodd ymateb cymysg gan lenorion eraill ar draws America Ladin, nifer ohonynt yn aelodau'r adain chwith.

Derbyniodd Wobr Cervantes yn 1999. Mae ei gweithiau diweddarach yn cynnwys El inútil de la familia (2004), sy'n seiliedig ar hanes ei ewythr, a La casa de Dostoievsky (2008), stori am fardd yr avant-garde sy'n teithio i Giwba yn y 1960au. Ysgrifennodd Edwards hefyd y gyfrol Adiós, poeta (1990), astudiaeth o Pablo Neruda.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Who was Jorge Edwards?". Al Dia (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-03-26. Cyrchwyd 26 Mawrth 2023.
  2. (Saesneg) Jorge Edwards. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mehefin 2019.