Tenor Sbaenaidd-Catalanaidd ydy Josep Maria Carreras i Coll (ganed 5 Rhagfyr 1946), a adwaenir gan amlaf fel José Carreras. Mae'n adnabyddus am ei berfformiadau yn yr operâu Verdi a Puccini.[1] Cafodd ei eni ym Marcelona, a pherfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf pan oedd yn 11 oed fel Trujamán yn El retablo de Maese Pedro gan Manuel de Falla. Parhaodd ei yrfa gerddorol gydag ef yn perfformio dros 60 rôl ar lwyfannau prif dai opera'r byd ac yn y stiwdio recordio. Cynyddodd ei enwogrwydd pan ganodd fel un o'r Tri Thenor gyda Plácido Domingo a Luciano Pavarotti mewn cyfres o gyngherddau a ddechreuodd ym 1990 ac a barhaodd tan 2003.[2] Mae Carreras hefyd yn adnabyddus am ei waith dyngarol fel llywydd Sefydliad Liwcemia Rhyngwladol José Carreras (La Fundació Internacional Josep Carreras per a la Lluita contra la Leucèmia), a sefydlodd pan oedd yn gwella o'r clefyd ym 1988.[3]

José Carreras
Ganwyd5 Rhagfyr 1946 Edit this on Wikidata
Sants Edit this on Wikidata
Label recordioSony Classical Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Conservatori Superior de Música del Liceu Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, artist recordio Edit this on Wikidata
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod Bavaria, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch-addurn Anrhydeddus am Wasanaeth dros Weriniaeth Awstria, Gwobr Tywysoges Asturias am y Celfyddydau, Gwobr Steiger, Medal Aur Generalitat de Catalunya, Chevalier de la Légion d'Honneur, Grand Officer of the Order of the Star of Romania, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Medal Aur am Deilyngdod yn y Celfyddydau (Sbaen), Commandeur des Arts et des Lettres‎, honorary doctor of the Saarland University, Gwobr Goffa Francesc Macià, Medal Anrhydedd Senedd Catalwnia, Catalan Disc of the Year Award, Osgar, Josep Trueta Medal Edit this on Wikidata

Albymau golygu

  • Sings Andrew Lloyd Webber (1990)
  • José Carreras Sings Catalan Songs (1991)
  • Hollywood Golden Classics (1991)
  • Friends for Life (1992)
  • Christmas in Vienna (gyda Diana Ross a Luciano Pavarotti; 1993)
  • Zarzuelas (1994)
  • Ave Maria (1995)
  • A Celebration of Christmas (gyda Placido Domingo a Natalie Cole; 1996)
  • Passion (1996)
  • Pure Passion (1999)
  • Festliche Weihnacht (gyda Luciano Pavarotti; 2004)
  • Belle Epoque (2007)
  • Mediterranean Passion (2008)
  • José Carreras – The Golden Years (2008)
  • Live in Vienna (2012)
  • The Very Best of José Carreras

Cyfeiriadau golygu

  1. Michael Kennedy a Joyce Bourne Kennedy The Concise Oxford Dictionary of Music (5ed argraffiad), Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2007. ISBN 0199203830
  2. Bwriadwyd cynnal cyngerdd ychwanegol ar 4 Mehefin 2005 ym Monterrey, Mecsico. Er i'r gyngerdd hysbysebu'r Tri Tenor yn wreiddiol, Carreras, Domingo, a'r canwr Mecsicanaidd Alejandro Fernández yn unig a berfformiodd. Tynnodd Luciano Pavarotti allan ar y funud olaf am resymau meddygol.
  3. José Carreras International Leukaemia Foundation[dolen marw]

Dolenni allanol golygu