José Manuel Briceño Guerrero

Llenor ac athronydd o Feneswela oedd José Manuel Briceño Guerrero (6 Mawrth 192931 Hydref 2014) sy'n nodedig am ei ymdriniaethau ag hunaniaeth ddiwylliannol yn America Ladin.

José Manuel Briceño Guerrero
Ganwyd6 Mawrth 1929 Edit this on Wikidata
Apure Edit this on Wikidata
Bu farw31 Hydref 2014 Edit this on Wikidata
Mérida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFeneswela Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, ieithegydd clasurol, athronydd, ieithegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ganolog Feneswela
  • University of the Andes Edit this on Wikidata
Gwobr/auY Wobr Genedlaethol am Lenyddiaeth Edit this on Wikidata

Ganwyd yn nhalaith Apure yng ngorllewin Feneswela, yn ardal y llaneros, a chafodd ei fagu yno ac yn nhaleithiau Barinas a Lara. Mynychodd ysgol uwchradd yn Barquisimeto, Lara, cyn iddo hyfforddi'n athro ysgol uwchradd yn y brifddinas Caracas. Cychwynnodd ar ei yrfa yn 1952 yn addysgu'r ieithoedd Saesneg, Almaeneg, a Ffrangeg. Yn ddiweddarach fe ddysgodd Japaneg, Tsieineeg, a Phortiwgaleg.[1]

Astudiodd athroniaeth ac ieitheg. Aeth i Ffrainc i ddysgu Ffrangeg a diwylliant Ffrengig, a derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Fienna yn 1961. Aeth hefyd i'r Undeb Sofietaidd i astudio Marcsiaeth.[1] Gweithiodd yn academydd ym Mhrifysgol yr Andes, Mérida.

Ysgrifennodd nofelau dan y ffugenw Jonuel Brique, a nodweddir ei ffuglen gan arddull barddol ei thraethiad.[2]

Derbyniodd y Wobr Lenyddol Genedlaethol yn 1996.[2] Bu farw ym Mérida yn 85 oed.

Llyfryddiaeth golygu

  • Triandáfila (1967). Cyhoeddwyd dan y ffugenw Jonuel Brique.
  • Holadios (1984). Cyhoeddwyd dan y ffugenw Jonuel Brique.
  • Europa y América en el pensar mantuano (Caracas: Monte Avila, 1981).
  • El laberinto de los tres minotauros (1996).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Sbaeneg) "Ha muerto el maestro José Manuel Briceño Guerrero", El Impulso (1 Tachwedd 2014). Adalwyd ar 4 Medi 2019.
  2. 2.0 2.1 Mark Dinneen, "Briceño Guerrero, José Manuel" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 86.