José María Arguedas

Nofelydd, awdur straeon byrion, ac ethnolegydd Periwaidd oedd José María Arguedas (18 Ionawr 191128 Tachwedd 1969).

José María Arguedas
GanwydJosé María Arguedas Altamirano Edit this on Wikidata
18 Ionawr 1911 Edit this on Wikidata
Andahuaylas Edit this on Wikidata
Bu farw2 Rhagfyr 1969 Edit this on Wikidata
o saeth i'r pen Edit this on Wikidata
Lima Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPeriw Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol San Marcos Edit this on Wikidata
Galwedigaethanthropolegydd, bardd, nofelydd, cyfieithydd, ethnolegydd, awdur storiau byrion, indigenist, awdur ysgrifau, academydd, newyddiadurwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • National Agrarian University
  • Prifysgol San Marcos Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDeep Rivers, Todas las Sangres, Warma Kuyay, El Sexto Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, nofel Edit this on Wikidata
PriodCelia Bustamante, Sybila Arredondo Edit this on Wikidata
PerthnasauElisa Fuenzalida Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Andahuaylas yn ne Periw, yn fab i farnwr ar grwydr. Bu farw ei fam pan oedd yn 3 oed, a chafodd ei fagu am gyfnod gan y bobl frodorol, a dysgodd yr iaith Quechua cyn iddo ddysgu'r Sbaeneg. Yn ei ieuenctid, astudiodd gerddoriaeth a thraddodiadau y Quechua yn ogystal â diwylliant Sbaeneg Periw.[1]

Astudiodd Arguedas ym Mhrifysgol San Marcos yn Lima, a gweithiodd yn y swyddfa bost o 1932 i 1937. Darlithiodd yn y Brifysgol Genedlaethol yn Sicuani o 1939 i 1941, a daliodd sawl swydd weinyddol cyn iddo ddechrau addysgu diwylliant Periw ym Mhrifysgol San Marcos yn 1959. Gwasanaethodd hefyd yn gyfarwyddwr y Tŷ Diwylliant o 1963 i 1964 ac yn gyfarwyddwr yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol o 1964 i 1969.[1]

Ymhlith ei weithiau mae'r casgliad o straeon In Agua (1935) a'r nofelau Yawar fiesta (1941), Los ríos profundos (1958), El sexto (1961), a Todas las sangres (1964). Bu farw yn Lima yn 58 oed drwy hunanladdiad.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) José María Arguedas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2019.