Cenedlaetholwr a merthyr Philipinaidd oedd José Protacio Mercado Rizal de Alejandro, Lam-co Alonso de la Rosa, y Realonda de Quintos (19 Mehefin 186130 Rhagfyr 1896).[1] Roedd yn bolymath: bardd a llenor toreithiog, arlunydd, ac offthalmolegydd, ac roedd yn medru nifer o ieithoedd. Ymhlith ei nofelau mae Noli me Tangere a'r dilyniant, El Filibusterismo.

José Rizal
FfugenwDimas-Alang, Laón Laán, Laón Laang Edit this on Wikidata
GanwydJosé Protasio Rizal-Mercado y Alonso-Realonda Edit this on Wikidata
19 Mehefin 1861 Edit this on Wikidata
Calamba Edit this on Wikidata
Bu farw30 Rhagfyr 1896 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Manila Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCaptaincy General of the Philippines Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, ieithydd, ophthalmolegydd, arlunydd, gweithredydd gwleidyddol, bardd, llawfeddyg, meddyg, gwleidydd, chwyldroadwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNoli Me Tángere, El filibusterismo, Mi último adiós Edit this on Wikidata
MudiadPropaganda Movement Edit this on Wikidata
TadFrancisco Mercado Edit this on Wikidata
MamTeodora Alonso Edit this on Wikidata
PriodJosephine Bracken Edit this on Wikidata
PerthnasauDelfina Herbosa de Natividad Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd yn genedlaetholwr brwdfrydig a galwodd am annibyniaeth i'r Philipinau oddi ar Ymerodraeth Sbaen. Yn ôl nifer o ysgolheigion, sbardunwyd Chwyldro'r Philipinau gan ddienyddiad Rizal. Heddiw dethlir Diwrnod Rizal yn y Philipinau pob blwyddyn er cof amdano. Mae tua 300,000 o bobl yng nghefn gwlad y Philipinau yn dilyn cwlt sy'n addoli Rizal fel duw neu Grist.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Jose Rizal. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.
  2. (Saesneg) Rizalist cult. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Philipiniad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.