José de la Cuadra

Awdur straeon byrion a nofelydd Ecwadoraidd yn yr iaith Sbaeneg oedd José de la Cuadra (3 Medi 190327 Chwefror 1941) a oedd yn un o lenorion Grŵp Guayaquil.

José de la Cuadra
GanwydJose de la Cuadra Vargas Edit this on Wikidata
3 Medi 1903 Edit this on Wikidata
Guayaquil Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 1941 Edit this on Wikidata
Guayaquil Edit this on Wikidata
DinasyddiaethEcwador Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, llyfrgellydd Edit this on Wikidata
Swyddbarnwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLos Sangurimas Edit this on Wikidata
Arddullstori fer, nofel, traethawd Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth, Guayaquil Group Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed yn Guayaquil, yn Nhalaith Guayas, Ecwador. Mynychodd Uwchysgol Vicente Rocafuerte cyn dechrau astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Guayaquil ym 1921. Bu'n hynod o weithgar mewn mudiadau myfyrwyr, ac ym 1925 sefydlodd yr "Universidad Popular" er cynorthwyo myfyrwyr tlawd. Derbyniodd ei radd baglor ym 1927, ac astudiodd hefyd am ddoethuriaeth yn y gyfraith. Priododd ag Inés Múñez del Arco Andrade ym 1928. Gweithiodd yn athro mewn uwchysgol ac yn y brifysgol, ac yn was sifil.[1]

Megis awduron eraill Grŵp Guayaquil, ysgrifennai José de la Cuedra am fywydau'r montuvio (y bobl o dras gymysg frodorol, Affricanaidd, ac Ewropeaidd) o ranbarth arfordir Ecwador, a hynny gydag agweddau o realaeth gymdeithasol. Canolbwyntia gwaith cynnar de la Cuadra ar ddyheadau a hiraeth ymhlith y fân-fwrdeisiaeth yn Guayaquil. Cofir yn bennaf am ei straeon byrion, a gyhoeddwyd mewn casgliadau megis Repisas (1931) a Horno (1932). Ei nofel enwocaf yw Los Sangurimas (1934), o genre ffuglen y montuvios, a ellir ei hystyried yn esiampl gynnar o realaeth hudol. Mae ei waith diweddaraf yn ymwneud â phobl yr ymylon: y montuvios, tlodion y ddinas, a'r bobloedd Amerindiaidd. Yn ogystal â'i ffuglen, ysgrifennodd de la Cuadra ysgrifau ar bynciau cymdeithasegol, er enghraifft ei draethawd El montuvio ecuatoriano (1937), a bywgraffiadau.

Penodwyd de la Cuadra yn athro'r gyfraith benyd ym Mhrifysgol Guayaquil ym 1937, a gwasanaethodd yn swydd Ysgrifennydd Cyffredinol dros Weinyddiaeth Gyhoeddus ac yn gonswl i'r Ariannin ac i Wrwgwái.[1] Bu farw José de la Cuadra yn ei ddinas enedigol, Guayaquil, yn 37 oed o waedlif ar yr ymennydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Pablo A. Martínez, "José de la Cuadra (1903–1941)" yn Encyclopedia of Latin American Literature, golygwyd gan Verity Smith (Chicago: Fitzroy Dearborn, 1997), tt. 436–9.