Mae Josei manga (女性漫画, cyfieithiad: comics i ferched) hefyd yn cael ei nabod fel "boneddigesau" (レディース redīsu) neu "comics i foneddigesau" (レディコミ redikomi, yn llythrennol: "ComBonedds") yn fath arbennig o fanga ar gyfer merched glasoed yn bennaf, o 14 oed a hŷn. Yn Japaneg mae'r gair josei yn golygu "merch", "benyw", "benywaidd" a "hogan".[1][2]

Paradise Kiss: clasur mewn Josei manga

Mae'r storiau fel arfer yn sôn am brofiadau pob-dydd merched sy'n byw yn Japan, gyda rhai'n sôn am brofiadau ysgol uwchradd, ond y rhan fwyaf yn canolbwyntio ar oedolion. Mae'r arddull yn debyg iawn i shōjo manga, ond ei fod ychydig yn fwy cynnil o ran rhai elfennau ac mae ynddi fwy o ryw ac mae'n fwy cignoeth e.e. trais rhywiol. Mae llygaid y cymeriadau hefyd yn llai na rheiny yn shōjo manga.

Enghreifftiau golygu

Loveless, Paradise Kiss, a gweithiau: Erica Sakurazawa.

Cyfeiriadau golygu