Gwleidydd Catalan yw Josep Rull i Andreu (ganwyd 2 Medi 1968[1][2]) a fu'n Weinidog yn Llywodraeth Catalwnia rhwng 2016 a 2017. Graddiodd Josep Rul yn y gyfraith ym Mhrifysgol Ymreolaethol Barcelona a gwnaed ef yn Aelod o Fargyfreithwyr Terrassa.

Josep Rull
Ganwyd2 Medi 1968 Edit this on Wikidata
Terrassa Edit this on Wikidata
Man preswylTerrassa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Alma mater
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd Catalwnia, Regidor de l'Ajuntament de Terrassa, Gweinidog Tir a Chynaladwyedd, 3ydd Ysgrifennydd Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Catalan Association of Municipalities and Regions
  • Waste Agency of Catalonia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolConvergència Democràtica de Catalunya, Plaid Ddemocrataidd Ewropeaidd Catalwnia, Junts per Catalunya Edit this on Wikidata
PartnerMeritxell Lluís i Vall Edit this on Wikidata

Fe'i carcharwyd rhwng 2 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2017, ac eto ar 23 Mawrth 2018, oherwydd cyhuddiadau yn ei erbyn gan Lywodraeth Sbaen. Ar 10 Gorffennaf 2018 terfynwyd ei swydd fel Gweinidog yn Llywodraeth y wlad, gan Uchel-lys Sbaen.[3]

Aelod a Gweinidog yn y Llywodraeth golygu

Bu'n aelod o Lywodraeth Catalwnia ers 1997 gan gynrychioli y blaid Convergència i Unió (Catalaneg, yn golygu "Cydgyfeiriad ac Undeb"). Ar 14 Ionawr 2016, daeth yn Weinidog dros Gynaladwyedd a Thir, yn Llywodraeth Carles Puigdemont.[4][5] Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd ei fod yn gadael y Convergència i Unió.[6].

Carcharu golygu

Ar 27 Hydref 2017, wedi i Lywodraeth Catalwnia gyhoeddi Datganiad o Annibynniaeth, cyflwynodd Llywodraeth Sbaen fesurau dan Ddeddf 155 o Gyfansoddiad Sbaen, a ddiddymodd Arlywyddiaeth y Generalitat, a phob swydd yn Llywodraeth Catalwnia, gan gynnwys swydd Rull. Yn union wedyn, cyhoeddodd Llywodraeth Sbaen eu bod yn diddymu'r cyhoeddiad hwnnw.[7]

Yn Nhachwedd 2017 cyhuddwyd 8 aelod o'r Llywodraeth o Wrthryfel: Josep Rull, Oriol Junqueras, Jordi Turull, Meritxell Borràs, Carles Mundó, Raül Romeva, Dolors Bassa, Joaquim Forn a Santi Vila.[8][9][10].

Ar 4 gorffennaf, trosglwyddwyd ef i garchar Lledoners, Catalwnia a rhwng hynny a'i achos llys ar 12 Chwefror 2019 cafwyd protestiadau tawel y tu allan i'r carchar.[11] Rhwng 3 a 20 Rhagfyr bu ar ympryd, gyda rhai o'r carcharorion gwleidyddol eraill. Fel ymateb i hyn, galwodd yr International Association of Democratic Lawyers ar Lywodraeth Sbaen i ryddhau'r "carcharorion gwleidyddol" hyn.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.ccma.cat/324/josep-rull-conseller-de-territori-i-sostenibilitat/noticia/2707117/
  2. https://www.elmundo.es/cataluna/2018/05/19/5b0025e346163fdc388b456e.html
  3. Llarena cierra el sumario del ‘procés’ y suspende como diputados a Puigdemont y Junqueras Cyhoeddwyd gan El País, 10 Gorffennaf 2018. Adalwyd 10 Gorffennaf 2018.
  4. Josep Rull, nou conseller de Territori i Sostenibilitat Archifwyd 2019-02-12 yn y Peiriant Wayback. (Catalaneg)
  5. DECRET 3/2016, de 13 de gener, pel qual es nomenen el vicepresident del Govern, els consellers i conselleres dels departaments de la Generalitat de Catalunya i el secretari del Govern. (Catalaneg)
  6. Josep Rull deja de ser coordinador general de CDC Nodyn:Es icon
  7. Orden PRA/1034/2017, de 27 de octubre, por la que se publica el Acuerdo del Consejo de Ministros de 21 de octubre de 2017, por el que, en aplicación de lo dispuesto en el artículo 155 de la Constitución, se tiene por no atendido el requerimiento planteado al M. H. Sr. Presidente de la Generalitat de Cataluña, para que la Generalitat de Cataluña proceda al cumplimiento de sus obligaciones constitucionales y a la cesación de sus actuaciones gravemente contrarias al interés general, y se proponen al Senado para su aprobación las medidas necesarias para garantizar el cumplimiento de las obligaciones constitucionales y para la protección del mencionado interés general. Nodyn:Es icon
  8. La Fiscalía pide prisión incondicional para Junqueras y siete exconsellers de Puigdemont y fianza a Santi Vila Nodyn:Es icon
  9. La Audiencia cita el jueves y viernes a Puigdemont y sus exconsellers para declarar por rebelión Nodyn:Es icon
  10. Spanish judge jails eight members of deposed Catalan government
  11. "Ple focus mediàtic a Lledoners la jornada en què arriben els presos al Bages". Regió7 (yn Catalaneg). 4 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 3 Chwefror 2019.
  12. "IADL calls for release of Catalan political prisoners". International Association of Democratic Lawyers. 3 December 2018. Cyrchwyd 30 December 2018.