Josh Navidi

Chwaraewr Cymreig o rygbi'r undeb

Chwaraewyr rygbi rhyngwladol dros Gymru yw Josh Navidi (ganwyd 30 Rhagfyr 1990). Mae'n chwarae i dîm Gleision Caerdydd. Bu'n gapten tîm dan-20 cenedlaethol Cymru.

Josh Navidi
Enw llawn Joshua Navidi
Dyddiad geni (1990-12-30) 30 Rhagfyr 1990 (33 oed)
Man geni Penybont-ar-Ogwr, Cymru
Taldra 1.85 m (6 ft 1 in)
Pwysau 105 kilogram (16 st 7 lb)
Ysgol U. Ysgol Brynteg
St Bede's College, Christchurch, Seland Newydd
Gyrfa rygbi'r undeb
Statws cyfredol
Safle / oedd Safle Rhes Gefn
tîm cyfredol Gleision Caerdydd
Gyrfa'n chwarae
Safle Safle Rhes Gefn
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
Bridgend Sports
Crwydriaid Morgannwg
Clwb Rygbi Caerdydd
Clybiau proffesiynol
Blynydd. Clybiau Capiau (pwyntiau)
2010- Gleision Caerdydd 163 100
yn gywir ar 22 Hyd 2018.
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
2009-2010
2013-
Dan-20 Cymru 8
11
(0)
(0)
yn gywir ar 17 Mawrth 2018.

Magwraeth golygu

Mae ei dad Hedy, o Iran ac yn gyn-reslwr arddull-rhydd o safon a aeth i astudio peirianneg sifil ym Mhrifysgol Bangor lle cyfarfu â mam Josh, Euros, sy'n Gymraes Gymraeg o Ynys Môn. Symudodd y cwpwl i ardal Penybont-ar-Ogwr lle mynychodd Josh Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr [1] ac yna ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhenybont. Yn 16 oed, aeth Josh i Seland Newydd lle astudiodd Cyfrifeg ac Addysg Gorfforol yng Ngholeg St Bede, Christchurch. Er iddo fwynhau ei amser yn Seland Newydd ac iddo gael cynnig cytundeb gydag Academi rygbi Christchurch, meddai wrth bapur y Western Mail, “I could have stayed there happily enough but I am a Welsh boy and wanted to put a red jersey on.” Dychwelodd i Gymru ac ymunodd ag Academi rygbi Gleision Caerdydd.[2]

Mae'n gallu siarad Cymraeg er ei fod wedi bod yn swil i wneud hynny'n gyhoeddus. Mewn sgwrs gyda'r gohebydd chwaraeon BBC Cymru Wales, Gareth Rhys Owen, Josh a'i fam, Euros, nododd ei gefnogaeth i'r iaith.[3]

Mae'n adnabyddus ar y cae rygbi yn rannol am fod ganddo wallt yn steil 'dreadlocks'.

Gyrfa Ryngwladol golygu

Yn Ionawr 2013 dewiswyd ef i fod yn rhan o garfan 35 dyn Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013.[4]

Ym Mai 2013 dewiswyd ar gyfer sgwad 32 dyn ar gyfer taith haf Cymru i Siapan.[5] Enillodd ei gap gyntaf dros Gymru mewn gêm fel blaenasgellwr ochr agored ar 15 Mehefin 2013.[6]

Ym mis Awst 2019 cyhoeddwyd bod disgwyl i Navidi gaptenio Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2019 yn Siapan.[7]

Diddordebau Busnes golygu

Ymhlith diddordebau busnes y teulu mae canolfan ffitrwydd ac iechyd - Physique Health and Fitness Centre, ym Mhen-y-bont sydd wedi ei redeg gan ei dad ers 1995. Mae Navidi wedi treilio peth amser yn rhedeg y ganolfan ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau a gofyn i'w dad ail-afael yn y gwaith oherwydd pwysau chwarae rygbi. Mae Navidi hefyd wedi ei hyfforddi fel Hyforddwr Ffitrwydd trwyddiedig ac mae'n rhedeg cwrs hyfforddiant personol i glientiaid.[7]

Ymddeol oherwydd anaf golygu

Datganodd Josh ei ymddeoliad o rygbi ar 20 Ebrill 2023 oherwydd "anaf difrifol i'w wddf." Dechreuodd Navidi ei yrfa gyda chlwb Caerdydd yn 2009, a dros y blynyddoedd mae wedi cynrychioli Cymru 33 o weithiau.

"Gyda thristwch, a balchder mawr dwi'n cyhoeddi fy ymddeoliad o rygbi," dywedodd Navidi. Yn ystod ei yrfa bu Navidi'n rhan o dri thîm wnaeth ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac yn 2019 fu'n rhan o'r tîm Cymraeg gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd.[8]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://twitter.com/BethanMorgan7/status/1104346147680866305
  2. https://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/rise-josh-navidi-how-son-13874701
  3. Rygbi, Clwb (2019-03-08). ""Dwi'n gobeithio gallu siarad gyda nhw yn Gymraeg."". @yclwbrygbi. Cyrchwyd 2019-03-08.
  4. Wales 2013 Six Nations squad
  5. Wales squad
  6. Japan v Wales 15.06.13
  7. 7.0 7.1 https://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/son-iranian-wrestler-who-almost-16818237
  8. "Josh Navidi yn ymddeol oherwydd anaf 'difrifol' i'w wddf". BBC Cymru Fyw. 20 Ebrill 2023.