Judith Maro

gwladgarwraig Iddewig ac awdur (1919-2011)

Awdur oedd Judith Maro (ganed Ida Yehudit Anastasia Grossman 24 Tachwedd 191916 Tachwedd 2011). Bu hefyd yn ymladdwr gyda'r Haganah (byddin tan-ddaearol yr Iddewon cyn Annibyniaeth) a roedd yn wraig i'r cerflunydd, Jonah Jones.

Judith Maro
GanwydYehudit Anastasia Grossman Edit this on Wikidata
24 Tachwedd 1919 Edit this on Wikidata
Dnipro Edit this on Wikidata
Bu farw16 Tachwedd 2011 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Hebrew Reali School Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodJonah Jones Edit this on Wikidata

Magwraeth golygu

Enw bedydd Judith Maro oedd Yehudit Anastasia Grossman, er mai fel Ida Grossman yr adnabwyd hi fel arfer. Fe'i ganed yn Dnepropetrovsk yn nwyrain Iwcrain ond mudodd y teulu i Balesteina a oedd ar y pryd o dan Fandad Prydain. Fe'i magwyd hi yn ninas Haifa lle roedd ei thad yn Athro Mathemateg yn yr Athrofa Dechnegol. Doedd y teulu ddim yn grefyddol ond fe'i hanogwyd i ddarllen y Beibl er mwyn dysgu am hanes ei phobl. Yn dair oed tystiodd hi a'i theulu i'r Iddewon yn cael eu saethu gan Arabiaid yn Hen Ddinas Jerwsalem - digwyddiad a adawodd ôl arni.

Roedd yn ddynes ifanc ddeallus ac yn rhugl mewn Hebraeg, Arabeg a Rwsieg[1] (dysgodd Saesneg ac yn Chymraeg hefyd). Bu hefyd yn dysgu Hebraeg i fewnfudwyr i Balesteina.[1] Yn ferch ifanc digwyddodd iddo ddod ar draws dogfennau yn ei hysgol Montessori a gredai y gall fod o ddefnydd i'r Hagaha. Daeth yn aelod o'r fyddin gudd a gwerthfawrogi'r sgiliau y ddysgodd yno [2] Dysgodd Côd Morse a daeth yn aelod o'r Hashmer - mudiad ieuenctid a ysbrydolwyd gan Farcsiaeth.

Ail Ryfel Byd golygu

Yn arwain at yr Ail Ryfel Byd collodd gyfeilles agos iddi, Miriam, a oedd wedi dychwelyd i Ffrainc wythnosau cyn i'r Natsiaid oresgyn y wlad yn 1940. Carchadwyr hi a lladdwyd hi yn Auschwitz.

Yn ystod y Rhyfel ymunodd Grossman gyda'r Auxiliary Territorial Service Brydeinig ac ymrestrodd yn y Brifysgol Hebraeg yn Jerwsalem gan ddilyn gradd mewn Astudiaethau Dwyreiniol. Gyda diwedd y Rhyfel, trodd ymdrechion yr Iddewon oddi wrth ymladd y Natsiaid ac at ymladd y Prydeinwyr oedd, yn eu tŷb nhw, yn rwystr i'r Iddewon ennill gwladwriaeth ei hunain.

Ymysg ei gwethredoedd oedd byrddio cychoedd oedd yn cludo Iddewon o gampiau marwolaeth y Natsiaid ac fywyd newydd ym Mhalesteina.

Jonah Jones golygu

Cwrddodd Grossman â'i darpar ŵr, Jonah Jones, yng Ngholeg Mynydd Carmel, canolfan addysg gan y Fyddin Brydeinig. Roedd Jones yn filwr ar y pryd ac wedi carwriaeth dwf a chwil (ac yn erbyn rheolau'r fyddin) priodwyd y ddau yn y dirgel yn 1946 heb ganiatâd swyddogol. Treiliodd gyfnod Rhyfel Annibyniaeth Israel fel swyddog yn y Palmach, adain comando yr Haganah ym mryniau Galilea. Dim ond wrth i'r tensiwn lleihau y dechreuodd feddwl am adael ei mamwlad a mynd at ei gŵr.

Roedd ei gwasanaeth yn yr ATS a'i phriodas i genedl-ddyn am greu trafferthion iddi ar naill ochr y frwydr yn Israel ac roedd, erbyn hynny, yn teimlo iddi dystio digon o dywallt gwaed. Nododd ei bod wedi dad-rithio o beidio gweld gwlad dau-genedl (Iddew ac Arab) unedig. Gadawodd Israegl gan gyrraedd Prydain gyda'i gŵr newydd ym Mehefin 1947.

Cymru golygu

Bu'r cwpwl yn byw i gychwyn yn Tyneside yng ngogledd ddwyrain Lloegr ond wedi sawl blwyddyn symudodd y ddau i benrhyn Llŷn. Wedi cyfnod yn y fyddin daeth Jonah Jones yn gerflunydd. Magwyd tri o blant a dysgodd Maro Gymraeg.[1] Teimlai Grossman fod angen mwy o asgwrn cefn ar y Cymry wrth ddelio gyda Saeson.[2]

Roedd gan y pâr priod ddau fab ac un ferch, Naomi Jones a aeth ymlaen i gyflwyno cyfres blant, Bilidowcar.[3]

Bu farw ei gŵr yn 2004 ac erbyn diwedd ei bywyd roedd Maro yn byw yn Abertawe, lle bu farw. Dywedodd ei bod wedi ei derbyn gan bobl Cymru ond mae Israel byddai ei chartref hyd byth.[4]

Mabwysiadodd yr enw-awdur, Judith Maro a dilynodd ei gŵr i'r ffydd Gatholig a cyhoeddodd sawl llyfr.

Llyfryddiaeth golygu

Atgofion Haganah (1972) - bywgraffiad am ei chyfnod yn y fyddin gudd [5]
Porth nid â'n Angof (1974) - a addawswyd yn hwyrach i The Remembered Gate
Hen Wlad Newydd (1974) - casgliad o erthyglau gyda theitl y llyfr yn gyfarchiad i deitl anthem genedlaethol Cymru ac i lyfr enwog Seionaeth, Theodor Herzl, Altneuland ('Hen Wlad Newydd' a gyhoeddwyd yn 1902).
Y Carlwm (1986) nofel a ymddangosodd yn 2009 fel The Stoat [6]
Chosen People: Wales and the Jews (2002) - ceir tameidiau o'i gwaith yn y gyfrol yma am hanes a dylanwad yr Iddewon ar Gymru gan Grahame Davies.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-15933914
  2. 2.0 2.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-25. Cyrchwyd 2018-11-07.
  3. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/32316256
  4. https://www.jta.org/2011/11/30/jewish-holidays/hanukkah/judith-maro-welsh-author-wrote-of-haganah-dies-at-91
  5. http://search.digido.org.uk/?id=llgc-id%3A1516335&query=*&query_type=full_text&page=472[dolen marw]
  6. https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/book-review-stoat-judith-maro-2120563