Mae Julie Burchill (ganed 3 Gorffennaf 1959 yn Frenchay, Bryste) yn awdures o Loegr. Mae'n adnabyddus am ei rhyddiaith (sy'n ddadleuol yn aml) i nifer o gyhoeddiadau dros y trideg mlynedd diwethaf. Dechreuodd ei gyrfa'n ysgrifennu i'r NME pan oedd yn 17 oed ac mae wedi ysgrifennu ar gyfer papurau newydd fel The Sunday Times a The Guardian. Er gwaethaf ei hamlygrwydd a'i blaengaredd ym myd newyddiaduraeth, mae ganddi ei beirniaid. Dywedodd Michael Bywater fod dadansoddiadau Burchill yn, ac yn parhau i fod yn "negligible, on the level of a toddler having a tantrum".

Julie Burchill
LlaisJulie burchill bbc radio4 desert island discs 10 02 2013 b01qhd0p.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Gorffennaf 1959 Edit this on Wikidata
Frenchay, Bryste Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethnewyddiadurwr, nofelydd, ysgrifennwr, ffeminist Edit this on Wikidata
PriodTony Parsons, Cosmo Landesman Edit this on Wikidata


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.