Julio Herrera y Reissig

Bardd ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Julio Herrera y Reissig (9 Ionawr 187518 Mawrth 1910). Roedd yn un o lenorion y mudiad modernismo ac yn aelod o Generación del 900.

Julio Herrera y Reissig
Ganwyd9 Ionawr 1875 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 1910 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, traethawd Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Montevideo i deulu cefnog. Ei ewythr oedd Julio Herrera y Obes, Arlywydd Wrwgwái o 1890 i 1894. Bu'n dioddef o galon sâl drwy gydol ei oes, a bu'n rhaid iddo ymddeol o'i swyddi fel clerc y Swyddfa Dollau ac arolygydd cynorthwyol yr ysgolion cynradd oherwydd ei afiechyd.[1] Ymunodd â bywyd bohemaidd Montevideo, tra'n dibynnu ar ei deulu am arian, ac arloesodd technegau newydd a themâu rhyfedd ym marddoniaeth Sbaeneg. Cyhoeddodd y cylchgrawn llenyddol La Revista (1899–1900).[2]

Cafodd drawiad ar ei galon yn 1900. Ysgrifennodd sawl cyfrol o farddoniaeth a rhyddiaith, nifer ohonynt a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth: Los maitines de la noche (1902), Epílogo wagneriano a la "política de fusión" (1902), Poemas violetas (1906), La vida (1906), Los peregrinos de piedra (1909), Pianos crepusculares (1910), Las pascuas del tiempo (1913), Prosas: Críticas, cuentos, comentarios (1918), Ópalos: Poemas en prosa (1919), Los parques abandonados (1919), a Las lunas de oro (1924).[1]

Bu farw ym Montevideo yn 35 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Georgette Magassy Dorn, "Herrera Y Reissig, Julio (1875–1910)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 27 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) Julio Herrera y Reissig. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu

  • Mario Alvarez, Ensueño y delirio: Vida y obra de Julio Herrera y Reissig (Montevideo: Academia Nacional de Letras, 1995).
  • Antonio Seluja, Julio Herrera y Reissig: vida y obra (1984).