Juliusz Słowacki

Bardd a dramodydd Pwylaidd oedd Juliusz Słowacki (4 Medi 18093 Ebrill 1849). Gyda Adam Mickiewicz a Zygmunt Krasiński, fe'i adnabyddir yn un o'r Tri Bardd (Pwyleg: Trzej Wieszcze) gwychaf yn y cyfnod Rhamantaidd yn llên Gwlad Pwyl.

Juliusz Słowacki
Portread o Juliusz Słowacki gan James Hopwood yr Ieuaf.
Ganwyd4 Medi 1809 Edit this on Wikidata
Kremenets Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ebrill 1849, 4 Ebrill 1849 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Brenhiniaeth Gorffennaf, yr Ail Weriniaeth Ffrengig, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Vilnius Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, diplomydd, cyfieithydd, dramodydd, ysgrifennwr, athronydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Vilnius Edit this on Wikidata
Adnabyddus amKordian, Balladyna Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAndrzej Towiański, Adam Mickiewicz, Jakub Wujek Edit this on Wikidata
TadEuzebiusz Słowacki Edit this on Wikidata
MamSalomea Slowacka Edit this on Wikidata
LlinachQ63531221 Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Kremenets yn Llywodraethiaeth Volyn, Ymerodraeth Rwsia. Penodwyd ei dad, Euzebiusz Słowacki, yn athro rhethreg a barddoniaeth ym Mhrifysgol Ymerodrol Vilnius ym 1811. Astudiodd Juliusz y gyfraith ym Mhrifysgol Ymerodorol Vilnius o 1825 i 1828. Aeth i Warsaw, prifddinas Gwlad Pwyl y Gyngres, ym 1829 ac yno cafodd swydd yn y trysorlys. Yn sgil Gwrthryfel Tachwedd 1830, ymunodd â'r corfflu diplomyddol yn y llywodraeth chwyldroadol dan yr Arlywydd Adam Jerzy Czartoryski. Aeth i Dresden (Teyrnas Sachsen), Paris (Teyrnas Ffrainc), a Llundain (Teyrnas Prydain Fawr ac Iwerddon), fel negesydd ar ran Czartoryski mae'n debyg, cyn i'r gwrthryfel fethu yn Hydref 1831.

Treuliodd Słowacki y cyfnod 1833–35 yn y Swistir, ac ym 1836, pan oedd yn yr Eidal, cyfansoddodd ei gerdd eidylaidd W Szwajcarii ("Yn y Swistir", cyhoeddwyd 1839). Teithiodd i'r Dwyrain Canol ym 1837–38, ac ysgrifennai cerdd draethiadol yn disgrifio'i brofiadau, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth dan y teitl Podróż do ziemi świętej z Neapolu ("Taith i'r Wlad Sanctaidd o Napoli", 1866).[1] Wedi hynny, treuliodd Słowacki y rhan fwyaf o'i alltudiaeth ym Mharis, ac yno y bu farw o'r ddarfodedigaeth yn 39 oed.

Ymhlith ei weithiau eraill mae'r gerdd brôs Anhelli (1838) a'r gerdd athronyddol Król-Duch (1847) a ysbrydolwyd gan Ddwyfol Gân Dante. Mae nifer o'i ddramâu yn tynnu ar hanes Gwlad Pwyl neu hen chwedlau, ac yn ymwneud â'r gwrthdaro rhwng y drwg a'r da. Maent yn cynnwys Balladina (1834), Hotsztynski (1835), Lilla Weneda (1840), Sen srebrny Salomei (1844), a Fantazy (1843). Gwerthfawrogir Słowacki hefyd am ei lythyrau at ei fam o'i gyfnod ym Mharis, a ystyrir yn esiamplau gwych o ryddiaith Bwyleg.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Juliusz Słowacki. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Chwefror 2021.