Mynydd 4,158 metr o uchder yn yr Alpau yw'r Jungfrau. Saif yn y Swistir, ar ben gorllewinol crib sydd hefyd yn cynnwys copaon y Mönch (4,107 m) a'r Eiger (3,970 m). Saif Grindelwald a Wengen wrth ei droed.

Jungfrau
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolJungfrau-Aletsch protected area Edit this on Wikidata
SirLauterbrunnen, Fieschertal Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Swistir Y Swistir
Uwch y môr4,158 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.5369°N 7.9625°E Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd692 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaFinsteraarhorn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddJungfrau-Fiescherhorn Group Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig waddodol Edit this on Wikidata

Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 3 Awst 1811 gan Johann Rudolf Meyer, Hieronymus Meyer, Joseph Bortis ac Alois Volker. Hwn oedd y tro cyntaf i un o fynyddoedd dros 4,000 metr o uchder y Swistir gael ei ddringo.

Mae rheilffordd yr Jungfraubahn yn arwain trwy dwnel tu mewn i'r Eiger a'r Mönch i gyrraedd bwlch yr Jungfraujoch, yr orsaf reilffordd uchaf yn Ewrop. Y bwriad gwreiddiol oedd parhau'r rheilffordd hyd ar gopa'r Jungfrau, ond ni lwyddwyd i wneud hyn.

Ar 13 Rhagfyr, cyhoeddwyd yr Jungfrau a'r tiriogaethau o'i gwmpas, Jungfrau-Aletsch-Bietschhorn, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.