Justina o Antiochia

Santes Gristnogol o ddinas Antiochia (Antioch) yn Asia Leiaf oedd y Santes Justina o Antiochia (bu farw 304 OC).

Justina o Antiochia
Dydd gŵyl26 Medi Edit this on Wikidata

Yn ferch Gristnogol ifanc hardd, ceisiodd uchelwr o'r enw Aglaïdes ennill cariad Justina ond roedd hi'n ei wrthod. Er mwyn ei chael, cyflogodd Aglaïdes swyngyfareddwr o'r enw Cyprian, ond pan welodd hwnnw y ferch penderfynodd ei chael iddo ef ei hun. Trwy rym ei negromansi, llenwodd feddwl Justina â gweledigaethau trachwantus er mwyn gwneud iddi ildio, ond llwyddodd y ferch i wrthsefyll temtasiwn. Cododd Cyprian y Diafol ei hun i'w gynorthwyo, ond doedd dim yn tycio. Pan welodd hynny, edifarhaodd Cyprian, cyffesodd i Justina a gofyn ei maddeuant ac wedyn cafodd ei fedyddio yn Gristion.

Yn nes ymlaen, pan fu cyfnod o erledigaeth grefyddol ar Gristnogion Antiochia yn nheyrnasiad yr Ymerodr Diocletian, taflwyd Justina a Cyprian i bair o olew tanllyd, ond goroesodd y ddau ohonynt oherwydd eu rhinweddau. Yna cawsant eu hanfon i ddinas Nicomedia yn y flwyddyn 304 ar orchymyn yr ymerodr a thorwyd eu pennau.

Yn ôl fersiwn arall o'r hanes, ynad lleol oedd Cyprian a werthodd ei enaid i'r Diafol er mwyn cael ei ffordd gyda Justina. Ond mae'r stori yn gorffen yr un fath, gyda'r ddau yn cael eu dienyddio. Gyrrwyd creiriau Justina a Cyprian i ddinas Rhufain lle cawsant eu cadw yn Eglwys Sant Ioan Lateran.

Symbol Justina yw'r uncorn, sy'n arwyddo diweirdeb. Mae hi a Cyprian yn cael eu cyfrif fel merthyron cynnar a seintiau.

O'r 13eg - 1969 ganrif ymddangosodd Gŵyl o'r un enw yn y Calendr Rhufeinig o Ddathlaidau, ond cafodd ei ddiddymu oherwydd diffyg tystiolaeth hanesyddol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  • J. C. J. Metford, Dictionary of Christian lore and legend (Thames & Hudson, 1983).
  1. "Calendarium Romanum" (Libreria Editrice Vaticana, 1969), p. 140