Mae kaolin (Tsieinëaeg) yn enw ar grŵp o fwynau clai sy'n cynnwys silicadau alwminiwm hydrus. Mae clai kaolin yn cynnwys kaolineit (y pwysicaf), nacreit a diceit.

Kaolin
Enghraifft o'r canlynolmineral species Edit this on Wikidata
Mathkaolinite mineral subgroup Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Kaolin yw prif cynhwysiad clai tsieni, sef y clai a ddefnyddir i wneud porslen. Fe'i defnyddir mewn prosesau diwydiannol ar raddau helaeth hefyd ac mewn rhai meddyginaethau yn ogystal.

Daw'r enw kaolin o enw'r bryniau ger Ching-tê-chên, yn ne Tsieina, lle y'i darganfuwyd am y tro cyntaf. Tyfodd Ching-tê-chên i fod y brif ganolfan gwaith porslen yn Tsieina.