Mae Karate neu karate-do yn grefft ymladd a ddatblygwyd yn yr Ynysoedd Ryukyu o ddulliau ymladd brodorol a kenpō. Yn bennaf, crefft o daro ydyw gan ddefnyddio hergydio, cicio, trawiadau penglin a phenelin a technegau llaw-agored megis llaw-gyllell a llaw-grynio. Dysgir ymgodymu, cloeon, caethiwo, tafliadau a mannau allweddol i'w taro mewn rhai dulliau. Gelwir person sy'n ymarfer karate yn karateka.

Pobl yn ymarfer karate

Hanes golygu

Okinawa

Dechreuodd karate ymysg y dosbarth pechin o'r Ryukyuans. Galwyd y system ymladd yn "ti" (neu "te"). Ar ôl i berthynasau masnachol gael eu sefydlu gan y Brenin Chuzan Satto gyda'r ymerodraeth Ming o Cheina ym 1372, cyflwynwyd nifer o wahanol fathau o grefftau ymladd Cheiniaidd i'r Ynysoedd Ryukyu gan yr ymwelwyr o Cheina, yn enwedig yn Nhalaith Fujian. Symudodd grŵp o 36 o deuluoedd Cheiniaidd i Okinawa tua 1392 gyda'r nod o gyfnewid diwylliant a rhannu eu gwybodaeth am grefftau ymladd Cheiniaidd. Roedd y canoli gwleidyddol o Okinawa gan y Brenin Shohashi ym 1429 a'r 'Polisi Gwahardd Arfau' a gyflwynwyd yn Okinawa ar ôl ymosodiad y llwyth Shimazu ym 1609, hefyd yn ffactorau a arweiniodd at ddatblygiad technegau ymladd heb arfau yn Okinawa.

Ychydig o ddulliau ymladd ffurfiol oedd i 'ti', ond yn hytrach roedd gan nifer o hyfforddwyr eu dulliau eu hunain. Roedd y dulliau cynnar o karate yn aml yn cael eu categoreiddio fel Shuri-te, Naha-te a Tomari-te. Roeddent wedi cael eu henwi ar ôl tair dinas lle dechreuodd y dulliau. Roedd gan bob ardal ac athro ei kata, technegau ac egwyddorion a oedd yn eu gwahaniaethu eu fersiwn lleol nhw o 'ti' o fersiynnau pobl ac ardaloedd eraill.

Pobl Enwog o fewn Karate golygu

 
Funakoshi Gichin

Gichin Funakoshi (船 越 義 珍 Funakoshi Gichin, Tachwedd 10, 1868 - Ebrill 26, 1957) yw sylfaenydd Shotokan Karate-Do, efallai'r arddull karate mwyaf adnabyddus, a elwir yn "dad karate modern". Yn dilyn dysgeidiaeth Anko Itosu ac Anko Asato, bu'n un o feistri karate Okinawan a gyflwynodd karate i dir mawr Siapan yn 1922. Fe ddysgodd karate mewn gwahanol brifysgolion Siapan a daeth yn ben anrhydeddus Cymdeithas Karate Japan ar ôl ei sefydlu ym 194