Kde domov můj? (Ble mae fy nghartref?) yw anthem genedlaethol Tsiecia, a cyn 1993 roedd yr hanner cyntaf yn anthem genedlaethol yr hen Tsiecoslofacia gyda anthem bresenol Slofacia annibynnol, Nad Tatrou sa blýska yr ail ran.

Cyfansoddodd Frantisek Škroup a'r dramodydd Josef Kajetán Tyl y gân fel rhan o'r gomedi Fidlovačka aneb žádný hněv a žádná rvačka (Fidlovačka, neu Dim dicter a dim stwff garw), a berfformiwyd yn y Stavovské divadlo (Theatr Ystadau) ym Mhrag ar 21 Rhagfyr 1833.

Geiriau golygu

Tsieceg

Kde domov můj,
kde domov můj?
Voda hučí po lučinách,
bory šumí po skalinách,
v sadě skví se jara květ,
zemský ráj to na pohled!
A to je ta krásná země,
země česká, domov můj,
země česká, domov můj!

Cyfieithiad answyddogol i'r Gymraeg

Ble mae fy nghartref?
Ble mae fy nghartref?
Mae dwr yn byrlymu dros y caeau
Mae coedwigau pinwydd yn sibrwd dros y creigiau
Mae'r ardd yn ogoneddus â blodau'r gwanwyn
Mae'n Baradwys ar y Ddaear i'w weld!
A dyma'r wlad hardd,
Y wlad Tsiec, fy nghartref,
Y wlad Tsiec, fy nghartref!

Cyswllt allanol golygu