Kenyanthropus platyops
Amrediad amseryddol: Plïosen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Is-deulu: Homininae
Genws: (?) Australopithecus
Rhywogaeth: A. platyops
Enw deuenwol
Australopithecus platyops
Leakey et al., 2001

Ffosil Hominin 3.2 to 3.5-miliwn o flynyddoedd oed yw Kenyanthropus platyops; dyma'r amrediad amser a elwir yn Gyfres Plïosen. Canfyddwyd y ffosil hwn o benglog yn Llyn Turkana yng Nghenia, Affrica yn 1999 gan Justus Erus.[1]

Cynigiodd Leakey (2001) fod y ffosil yn cynrychioli rhywogaeth a genws hollol newydd, ond mae eraill yn ei ddosbarthu fel rhywogaeth newydd o Australopithecus, Australopithecus platyops, ond mae eraill yn ei ddosbarthu fel unigolyn oddi fewn i Australopithecus afarensis.

Cafwyd darganfyddiadau pellach yng Nghenia yn 2015, sydd o bosib y dystiolaeth hynaf o'r defnydd o offer llaw; eu barn nhw ydy mai'r Kenyanthropus platyops oedd y cyntaf i ddefnyddio offer llaw.[2]

Geirdarddiad golygu

Daw'r enw Kenyanthropus platyops i'r rhywogaeth unigryw hwn am sawl rheswm: defnyddiwyd y gair “Kenyanthropus” (o'r gair 'Cenia') er mwyn cydnabod y wlad fel gwlad anrhaethol bwysig o ran y darganfyddiadau archaelolegol o wahanol hominins ac oherwydd fod y darganfyddiadau hyn wedi taflu golau newydd ar esblygiad dynol. Mae enw'r rhywogaeth, sef “platyops” yn tarddu o ddau air Groeg: platus, sef "fflat", ac opsis, sef "wyneb", sy'n cyfeirio at wyneb fflat y craniwm a ddarganfuwyd.

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu