Kesva an Taves Kernewek

Corff rheoli iaith answyddogol a sefydlwyd i hyrwyddo'r iaith Gernyweg yw Kesva an Taves Kernewek (Cernyweg am 'Bwrdd yr Iaith Gernyweg'). Does gan y corff ddim grym statudol.

Sefydlwyd y bwrdd yn 1967 gan Orsedd Cernyw a Unyans Kowethasow Kernow Goth (Ffederasiwn Hen Gymdeithasau Cernywaidd). Mae'n dibynnu ar werthiant ei gyhoeddiadau a grantiau achlysurol am ei incwm. Etholir mwyafrif aelodau'r bwrdd pob tair blynedd gan aelodaeth Kowethas an Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg, sef mudiad i gefnogwyr yr iaith), gan gynnwys hefyd cyrychiolwyr o'r ddau gorff a'i sefydlodd a Chyngor Cernyw.

Un o'i brosiectau yw Projekt an Bibel Kernewek gyda'r bwriad o gyfieithu'r Beibl i'r Gernyweg gan ddefnyddio'r testunau Groeg a Hebraeg gwreiddiol. Cyhoeddwyd y cyfieithiad o'r Testament Newydd yn 2004.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu