Kevin Allen

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Abertawe yn 1962

Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau yw Kevin Allen (ganwyd 15 Medi 1962 yn Abertawe). Ym 1997, cyfarwyddodd y comedi dywyll Cymreig Twin Town ac mae hefyd wedi cyfarwyddo The Big Tease a Agent Cody Banks 2:Destination London. Brawd iau'r digrifwr Keith Allen ac ewythr i'r gantores bop Lily Allen yw e.

Kevin Allen
Ganwyd15 Medi 1962 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, cyfarwyddwr ffilm, actor ffilm, sgriptiwr, actor teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTwin Town Edit this on Wikidata

Daeth Allen i'r amlwg am y tro cyntaf ym 1990 pan grëodd raglen ddogfen am Rownd Derfynol Cwpan y Byd trwy lygad cefnogwr o Loegr fel rhan o gyfres Video Diaries y BBC. Cafodd ei rôl actio gyntaf yn The Comic Strip Presents (Channel 4) cyn iddo symud ymlaen i'r comedi sefyllfa The Thin Blue Line (Tiger Aspect Productions ar ran y BBC) a'r ffilm Spice World (1997).

Teledu golygu

  • Gems (1988)
  • Bernard and the Genie (1991)
  • Look at it this Way (1992)
  • Bottom (1995)
  • The Thin Blue Line (1995)
  • French and Saunders (1996)

Ffilmiau golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.