Dinas a gwersyll ffoaduriaid cyfagos a leolir yn ne Llain Gaza yw Khan Yunis (Arabeg: خان يونس‎; sef 'Gwesty Jonah'). Khan Yunis yw dinas fwyaf de Llain Gaza: yn ôl Swyddfa Ganolog Ystadegau Palesteina, roedd gan y ddinas, y wersyll a'r cylch boblogaeth o 180,000 in 2006. Er bod Khan Yunis yn gorwedd 4 km yn unig o lan y Môr Canoldir, mae ei hinsawdd yn lled-anial gyda dim ond tua 260mm o law y flwyddyn.

Khan Yunis
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth142,637 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1389 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Palermo, Bwrdeistref Hamar, Almuñécar, Évry Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Khan Yunis Edit this on Wikidata
GwladY Weriniaeth Arabaidd Unedig, Israeli-occupied territories, Gwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.34389°N 34.3025°E Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd y ddinas yn y 14g. Erbyn heddiw mae'n un o gadarnleoedd y mudiad Hamas yn Llain Gaza.

Rhyfel 2008-2009 golygu

Ar 6 Ionawr 2009, ar 11eg ddiwrnod rhyfel Israel ar Gaza 2008-2009, ymosododd colofn o danciau Israelaidd gyda chefnogaeth hofrenyddion arfog ar ardal Khan Yunis. Yn ôl Agence France-Presse, aeth y tanciau i mewn gyda'r wawr. Bu ymladd ffyrnig rhwng y milwyr Israeliaid a rhyfelwyr gwrthsefyll Hamas gyda'r brwydro'n drymaf yn nhref Abasan al-Kabera, un o faesdrefi Khan Yunis, i'r dwyrain o'r ddinas. Lladdwyd rhai sifiliaid yn Khan Yunis ei hun wrth i fomiau disgyn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato