Gwleidydd ac economegydd comiwnyddol o Gambodia yw Khieu Samphan (ganwyd 28 Gorffennaf 1931)[1] oedd yn un o brif arweinwyr y Khmer Rouge ac yn bennaeth y wladwriaeth o 1976 hyd 1979.

Khieu Samphan
Khieu Samphan yn sefyll ei brawf yn ystod 2014.
Ganwyd27 Gorffennaf 1931 Edit this on Wikidata
Talaith Svay Rieng Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCambodia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycee Sisowath
  • Prifysgol Montpellier
  • Sorbonne Paris Cité University (group)
  • Prifysgol Paris
  • Royal University of Phnom Penh Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Cambodia, dirprwy Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Kampuchea, Party of Democratic Kampuchea, Cambodian National Unity Party, Khmer National Solidarity Party, Sangkum Edit this on Wikidata
PriodSo Socheat Edit this on Wikidata

Cafodd ei fagu yn nhalaith Svay Rieng yn ne ddwyrain Cambodia. Enillodd ysgoloriaeth gan y llywodraeth i fynychu prifysgol yn Ffrainc ym 1955. Tra'n astudio ym Mharis, cafodd ei ddenu gan Farcsiaeth ac ymunodd â grŵp o fyfyrwyr adain-chwith o Gambodia. Enillodd ei ddoethuriaeth o'r Sorbonne ar bwnc "economi a datblygiad diwydiannol Cambodia". Pwysleisiodd ddychweliad at agrariaeth, a gwelir ei thesis yn rhywbeth o flaengynllun i bolisïau economaidd y Khmer Rouge.[2]

Dychwelodd i'w famwlad a daeth yn wleidyddol weithgar tra'n weithio fel athro prifysgol. Cafodd ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1962 a 1964, a phenodwyd yn Ysgrifennydd Masnach yng nghabinet y Prif Weinidog Norodom Sihanouk, cyn-frenin y wlad. Enillodd Khieu Samphan y llysenw "Mistar Glân" am fod yn ddilwgr. Dros amser, trodd Sihanouk yn erbyn elfennau adain-chwith Cambodia, a bu Khieu Samphan yn ffoi i'r jyngl ym 1967 i ymuno â'r gwrthryfelwyr comiwnyddol dan arweiniad Pol Pot. Credodd nifer iddo gael ei ladd gan heddlu cudd Sihanouk nes iddo ymddangos yn gyhoeddus ym 1973.

Cipiodd y Khmer Rouge rym ym 1975 gan sefydlu Kampuchea Ddemocrataidd, a rhoi ar waith rhaglen o gyfunoli, llafur gorfodol, ac hil-laddiad. Gwasanaethodd Khieu Samphan yn swydd llywydd y presidiwm, ac arlywydd mewn enw y wlad, o 11 Ebrill 1976 hyd 7 Ionawr 1979. Goresgynnwyd Cambodia gan Fietnam yn Rhagfyr 1978 a chafodd y Khmer Rouge ei ddymchwel o fewn dwy wythnos. Meddianwyd y wlad am ddeng mlynedd a sefydlwyd Gweriniaeth Pobl Kampuchea. Daeth Khieu Samphan yn weinidog tramor ym 1982 dan y llywodraeth glymblaid. Ef oedd wyneb gyhoeddus y llywodraeth, a theithiodd gyda diplomyddion i wledydd eraill ar ymweliadau swyddogol. Cynrychiolodd y Khmer Rouge mewn trafodaethau heddwch a ddaeth â therfyn i Ryfel Cambodia a Fietnam ym 1991.[3] Bu Khieu Samphan, a nifer o gyn-arweinwyr eraill y Khmer Rouge, yn byw yn nhalaith Pailin dan warchodaeth lluoedd Ieng Sary[3] nes iddo ildio i'r llywodraeth yn 1998.[4]

Dechreuodd waith Siambrau Arbennig Llysoedd Cambodia yn 2006 gyda chefnogaeth y Cenhedloedd Unedig i roi gyn-arweinwyr y Khmer Rouge ar brawf. Cafodd Khieu Samphan ei arestio yn 2007 a'i gyhuddo o droseddau yn erbyn dynoliaeth, hil-laddiad, a thorri Cytundeb Genefa (1948).[1] Dechreuodd yr achos yn Nhachwedd 2011. Rhannodd y doc gyda Nuon Chea ac Ieng Sary a'i wraig Ieng Thirith. Bu farw Ieng Sary yn 2013, ac yn 2012 penderfynwyd bod Ieng Thirith yn anghymwys i sefyll ei phrawf oherwydd dementia. Cyfaddefodd Khieu Samphan y bu marwolaethau torfol dan lywodraeth y Khmer Rouge, gan feio ideoleg eithafol Pol Pot, ond honodd nad oedd ganddo ei hun ran uniongyrchol parthed y llofruddiaethau. Dywedodd taw arweinydd mewn enw yn unig ac "heb rym" ydoedd. Cafwyd Khieu Samphan a Nuon Chea yn euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth yn Awst 2014, a'u dedfrydu i garchar am oes.[5] Yn Nhachwedd 2018 fe'i cafwyd yn euog o hil-laddiad Fietnamiaid ethnig yng Nghambodia, a hefyd sawl cyhuddiad o briodasau gorfodol, treisio, ac erledigaeth grefyddol, a'i ddedfrydu i garchar am oes unwaith eto.[6] Erbyn 2021, pryd clywyd yr apêl yn erbyn ei ddedfryd, Samphan oedd yr olaf o arweinwyr y Khmer Rouge a oedd yn dal i fyw.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Khieu Samphan (Siambrau Arbennig Llysoedd Cambodia). Adalwyd ar 13 Medi 2016.
  2. (Saesneg) The Economist Behind the Khmer Rouge, The New York Times (27 Mehefin 2011). Adalwyd ae 13 Medi 2016.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Khmer Rouge Biographies Archifwyd 2009-04-03 yn y Peiriant Wayback. (Adran Astudiaethau De Ddwyrain Asia, Prifysgol Gogledd Illinois). Adalwyd ar 13 Medi 2016.
  4. (Saesneg) Khmer Rouge leaders surrender, BBC (26 Rhagfyr 1998). Adalwyd ar 13 Medi 2016.
  5. (Saesneg) Khmer Rouge leaders guilty of crimes against humanity and jailed for life, The Guardian (7 Awst 2014). Adalwyd ar 13 Medi 2016.
  6. (Saesneg) Khmer Rouge leaders found guilty of Cambodia genocide", BBC (16 Tachwedd 2018). Adalwyd ar 16 Tachwedd 2018.
  7. (Saesneg) "Sole surviving Khmer Rouge leader denies role in genocide", Al Jazeera (19 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 19 Awst 2021.